Fydd rhai dan 18 oed ddim yn cael defnyddio gwely haul
|
Mae pobl dan 18 oed wedi eu gwahardd rhag defnyddio gwely haul yng Nghymru a Lloegr o ddydd Gwener ymlaen. Mae hyn yn rhan o ymdrech i ymateb i bryderon ynglŷn ag effaith posib y gwelyau ar y croen. Yn ôl Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd mae'n "gam mawr ymlaen" wrth warchod iechyd pobol ifanc. Cynghorau lleol fydd yn gweithredu'r gyfraith, a bydd cwmnïau sy'n torri'r gyfraith yn wynebu dirwy o hyd at £20,000. Mae'r gwaharddiad hefyd wedi ei groesawu gan yr elusen Ymchwil Canser UK. Yn ôl arolwg yr elusen yn 2009 roedd 8.2% o blant 11-17 oed yng Nghymru wedi defnyddio gwely haul o leiaf unwaith ac roedd 16% yn dweud y bydden nhw'n eu defnyddio yn y dyfodol. Roedd 41.5% o blant yn dweud eu bod wedi defnyddio'r gwelyau heb oruchwyliaeth. 75% Dywedodd Mrs Caroline Cerny o'r elusen: "Dyw defnyddio gwelyau haul ddim yn opsiwn diogel i gael lliw haul. "Gall defnyddio gwely haul am y tro cyntaf cyn ichi fod yn 35 oed gynyddu'r risg o ddatblygu melanoma o 75%." Yn ôl Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru, mae cyfradd canser y croen wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar ac mae'n cael ei gysylltu yn bennaf gydag ymbelydredd uwch-fioled. Mae'r elusen wedi rhybuddio bod cyfradd canser y croen ymhlith pobl ifanc wedi treblu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Yn ôl yr elusen, mae achosion melanoma canseraidd y croen ymhlith pobl rhwng 15 a 34 oed wedi cynyddu o ddau berson i chwe pherson ym mhob 100,000 ers diwedd yr 1970au. Mae hyn yn golygu y bydd tua 40 person ifanc o dan 35 oed yn cael diagnosis eu bod yn dioddef o ganser y croen eleni. Mae ffigyrau diweddaraf yr elusen hefyd yn dangos fod 555 o bobl o bob oedran yn datblygu'r clefyd hwn yng Nghymru bob blwyddyn.
|