British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Ebrill 2011, 06:49 GMT 07:49 UK
Cynllun atal llifogydd ar y gweill

Llifogydd yn Rhydyfelin
Roedd llifogydd yn ardal Rhydyfelin yn 2009

Gallai mwy na 300 cartref ym Mhontypridd elwa o gynllun £3m bydd yn ceisio atal llifogydd yn y dref.

Mae'r gwaith paratoadol ar Gynllun Atal Llifogydd Rhydyfelin newydd orffen a bydd tîm y prosiect yn cyflwyno cais cynllunio erbyn diwedd mis Ebrill.

Os bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus disgwylir i'r gwaith ddechrau erbyn diwedd 2011.

Bwriad y cynllun yw lleihau'r perygl o lifogydd i dai yn ardal Rhydyfelin sydd wedi dioddef llawer yn sgil llifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r ardal hon o Rydyfelin wedi dioddef o lifogydd ers blynyddoedd lawer
Maureen Webber

Bydd y gwaith yn cynnwys newid ac ailosod ceuffosydd a thanciau gwanhad.

Yn ogystal, bydd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â llifogydd yn cael ei lansio yn ardal Rhydyfelin.

'Tipio anghyfreithlon'

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, aelod cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am drafnidiaeth a chynllunio at argyfwng:

"Bydd bygythiad llifogydd yn dal yn broblem yn ystod y cyfnod pan fydd y cynllun yn cael ei weithredu.

"Ond mae bygythiad llifogydd yn llawer gwaeth pan mae pobl yn tipio'n anghyfreithlon mewn ceuffosydd.

"Felly mae'n bwysig i aelodau o'r cyhoedd beidio tipio'n anghyfreithlon."

Dywedodd cynghorydd sir ardal Rhydyfelin, Maureen Webber: "Mae'r ardal hon o Rydyfelin wedi dioddef o lifogydd ers blynyddoedd lawer.

"Rwy'n hapus dros ben bod y cyngor wedi llwyddo ennill grantiau o Lywodraeth y Cynulliad i geisio atal y broblem."



HEFYD
Llifogydd: 100 yn gadael tai
07 Meh 09 |  Newyddion
Ymchwiliad i lifogydd
05 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific