British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Ebrill 2011, 14:10 GMT 15:10 UK
Trafod dyfodol pier tref glan môr Bae Colwyn

Pier Bae Colwyn
Credir y byddai adnewyddu sylfaenol ar y pier yn costio Ł3.5 miliwn

Mae dyfodol pier tref glan môr sydd wedi mynd â'i ben iddo yn cael ei drafod y tu ôl i ddrysau caeedig gan aelodau o Gyngor Conwy ddydd Iau.

Mae Pier Victoria ym Mae Colwyn wedi bod yn nwylo ymddiriedolwyr methdalwyr ers 2008 ac mae ei gyflwr wedi parhau i ddirywio ers hynny.

Un opsiwn sy'n debyg o gael ei drafod ydy cynnig i'r cyngor ei hun brynu'r strwythur.

Mae dogfennau a ddaeth i law drwy gais rhyddid gwybodaeth hefyd yn awgrymu na fydd ystyriaeth yn cael ei roi i ddymchwel y strwythur.

Mae'r pier wedi bod yn destun dadlau tanllyd yn y gymuned leol ac o fewn y cyngor ers i'w berchennog, Steve Hunt, gael ei wneud yn fethdalwr mewn ffrae gyda'r cyngor dros gyfraddau busnesau a threth cyngor.

Dydd Iau, mae pwyllgor trosolwg a chraffu'r cyngor yn trafod dyfodol y pier a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1900.

Roedd unwaith yn un o ganolfannau bywyd cymdeithasol Bae Colwyn gyda sêr fel Morecambe and Wise, Ken Dodd, Harry Secombe, Motörhead ac Elvis Costello wedi perfformio yno.

Wedi pum mlynedd o waith i'w adnewyddu cafodd Mr Hunt ei wneud yn fethdalwr a daeth y gwaith i ben.

Ers hynny mae cabinet y cyngor wedi bod yn trafod cyfres o adroddiadau a chynigion ar gyfer datblygu'r pier.



HEFYD
Adnewyddu pier yn hwb i ymwelwyr
18 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific