British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Ebrill 2011, 16:05 GMT 17:05 UK
'Ddim yn mwynhau'r toriadau'

Nick Clegg
Roedd Nick Clegg yn teithio Cymru ddydd Gwener

Dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn mwynhau gwneud toriadau - dyna neges Nick Clegg ar ei daith o gwmpas Cymru ddydd Gwener i hyrwyddo ymgyrch ei blaid yn Etholiad y Cynulliad.

Dywedodd bod ei blaid eisiau sicrhau swyddi i bobl ifanc a rhoi "bargen deg" i blant ysgol.

Ar drothwy ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog, cyhoeddodd y Blaid Lafur bod ymgeisydd seneddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymuno â Llafur.

Mr Clegg yw'r ail arweinydd Prydeinig i ddod i Gymru i ymgyrchu yn etholiad y Cynulliad.

Roedd David Cameron yn Abertawe wythnos yn ôl.

'Penderfynu dros ein hunain'

Ar ei ymweliad â chartrefi gofal yn Betws, Casnewydd - y cyntaf o sawl ymweliad ar draws Cymru - holwyd Mr Clegg a oedd ei ymweliad yn help i ymgyrch Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o ystyried toriadau sector gyhoeddus clymblaid San Steffan.

"Rhaid i bobl benderfynu drostyn nhw eu hunain," meddai.

"Rydw i bob amser wedi bod yn agored am y ffaith bod y llywodraeth yn Llundain yn gwneud penderfyniadau anodd sydd wrth gwrs yn ddadleuol," meddai.

"Nid er mwyn gwneud toriadau y des i mewn i wleidyddiaeth.

"Dydy e ddim yn rhywbeth sy'n rhoi pleser i fi.

"Dydy'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn mwynhau hyn."

Dywedodd y byddai peidio ag ymateb i broblemau ariannol y wlad yn gorfodi dyledion ar y cenedlaethau sydd i ddod.

'Penderfyniadau caled'

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddan nhw'n ymladd yr ymgyrch ar yr economi, gan addo taclo diffyg sgiliau a chreu swyddi.

Dywedodd Mr Clegg ei fod yn "gefnogwr brwd" o addewid ei blaid yng Nghymru i gynnig £2,000 mewn grant hyfforddi i gwmnïau sy'n rhoi gwaith i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith.

Cyhoeddodd cyn ymgeisydd seneddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol, Paul Penlington, oedd yn sefyll yn Nyffryn Clwyd y llynedd, ei fod wedi gadael y blaid.

Dywedodd ymgeisydd Canol Caerdydd Llafur, Jenny Rathbone, nad oedd hi'n credu bod Mr Clegg yn help i ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae'r ffaith ei fod e'n mynd i Gasnewydd a ddim hyd yn oed yn mynd i siarad â'r swyddfa basport yn dweud llawer am sut mae e'n trio osgoi unrhyw rai o'r cwestiynau y gallai fod eisiau cael ei holi amdano."

Yr economi

Yn y cyfamser roedd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn ymgyrchu ar yr economi.

Roedd ymgeiswyr Ceidwadol mewn groser yn Y Tyllgoed, Caerdydd, busnes na fyddai'n gorfod talu treth fusnes dan lywodraeth Geidwadol.

Byddai'r Ceidwadwyr yn dileu trethi ar fusnesau gyda gwerth o dros £12,000 a'r dreth yn cynyddu yn raddol i fusnesau a gwerth o£12,001 to £15,000.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad y byddai trethi "mwy cystadleuol" yn annog busnesau newydd.

Roedd Plaid Cymru yn agor swyddfa ymgyrchu newydd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones "bod dim esgusodion yma."

"Rydym ni'n deall bod angen cryfhau'r economi ac fe gydnabyddus i hynny pan ysgrifennwyd y rhaglen i adnewyddu'r economi.

"Rhaid cryfhau'r economi ac mae ganddom ni syniadau yn yr etholiad yma ar sut i wneud hynny."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific