Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb am 20 o feysydd sydd wedi eu datganoli, gan gynnwys iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Bydd y pleidiau i gyd yn amlinellu eu polisïau ac yn cyhoeddi maniffestos ar gyfer yr etholiad ar Fai 5. Isod mae rhai o flaenoriaethau'r Ceidwadwyr, Y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Phlaid Cymru yn rhai o'r meysydd yna. CLICIWCH I DDEWIS PWNC:
POLISÏAU CYFFREDINOL
Ceidwadwyr
|
Llafur
|
Plaid Cymru
|
Democratiaid Rhyddfrydol
|
Gwarchod cyllideb y gwasanaeth iechyd dros y pedair blynedd nesaf chael gwared ar wastraff mewn gwario cyhoeddus
Buddsoddi mewn rhaglen adeiladu eang a rhoi mwy o laid i athrawon, rhieni a llywodraethwyr trwy gyllido ysgolion trwy'r llywodraeth
Cael gwared ar drethi'n gyfan gwbl i fusnesau bach
Cael gwared yn llwyr ar dlodi plant erbyn 2020
Gwarchod pasys bws am ddim a phresgripsiynau am ddim i'r henoed
Creu Cerdyn y Lluoedd arfog sy'n rhoi buddion amrywiol i filwyr a chyn-filwyr gan gynnwys teithio ar y bws am ddim"
|
Mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gael prentisiaeth a chyfleoedd hyfforddi
Cyfle i weld meddygon teulu gyda'r nos ac ar ddydd Sadwrn
Mwy o gyllid i ysgolion
500 yn fwy o heddweision cymunedol i greu cymunedau mwy diogel
Dyblu nifer y plant sy'n manteisio ar ofal plant am ddim ac ymweliadau iechyd
Presgripsiynau am ddim i helpu teuluoedd sy'n gweithio'n galed ac i helpu pobl nôl i'r gwaith
Teithio ar y bws am ddim i bensiynwyr ac i bobl ag anableddau a'u gofalwyr
Brecwast a llaeth am ddim i blant o dan saith
Cefnogaeth i fyfyrwyr o Gymru fel bod dim angen iddyn nhw dalu ffioedd dysgu uwch
Cymorth i bobl sydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith - adeiladu ar raglen Re-Act
|
Sicrhau bod plant sy'n gadael ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfrif i'r safon ddisgwyliedig
Rhoi cymorth i fusnesau bach i dyfu, creu miloedd o swyddi newydd a helpu pobl i gael yr hyfforddiant a'r sgiliau i gael swyddi hirdymor
Sicrhau bod cleifion yn gweld meddygon a deintyddion yn gyflym ac effeithiol
Cysylltu Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif gyda signal symudol gwell, cyswllt WiFi a band llydan a system drafnidiaeth fydd yn symud y genedl yn ei blaen
|
Torri amser aros am driniaeth trwy gael gwared ar wastraff. Gwella gofal iechyd trwy symud gwariant aneffeithiol yn y gwasanaeth iechyd i'r rheng flaen
Rhoi mwy o arian i ysgolion trwy roi cyllid ychwanegol i ddisgyblion sydd ei angen fwyaf fel y gall ysgolion fuddsoddi mewn dosbarthiadau llai neu addysg un-i-un a thrwy hynny, daclo'r gwahaniaeth mewn gwariant rhwng Cymru a Lloegr
Cyllido'r ambiwlans awyr er mwyn cael gwasanaeth llawn, saith niwrnod yr wythnos
Buddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad, yn arbennig mewn ysgolion. Annog cyswllt rhwng ysgolion a chlybiau chwaraeon lleol er mwy sicrhau bod pob plentyn sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael y cyfle i wneud hynny a sicrhau bod cyrsiau hyfforddi athrawon yn gwella gallu athrawon i ddysgu am chwaraeon
Ailwampio radical o effeithlonrwydd ynni 12,000 yn fwy o dai trwy ddyblu'r cyllid fydd ar gael i daclo tlodi tanwydd
Yn flynyddol, cynnig 5,000 o grantiau hyfforddi -gwerth £2,000 yr un - i fusnesau newydd sy'n sefydlu yng Nghymru ac yn rhoi swyddi i bobl ifanc di-waith
Dileu'r daith awyr rhwng gogledd a de Cymru gan roi blaenoriaeth i ffyrdd gwyrdd o deithio, yn cynnwys trenau a bysiau
Cael gwared ar wastraff yn y Llywodraeth fel bod yr arian sy'n cael ei wario yn gwneud gwahaniaeth i unigolion a'u teuluoedd
|
|