British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Ebrill 2011, 14:03 GMT 15:03 UK
Cytuno i symud Ysgol Treganna i adeilad newydd

Arwydd Ysgol Treganna
Y gobaith yw y bydd gan Ysgol Treganna adeilad newydd erbyn 2013

Mae cynllun i godi adeilad newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd wedi cael eu cymeradwyo.

Ers dros bum mlynedd bellach mae ymgyrch wedi bod i gael gwell darpariaeth ar gyfer Ysgol Treganna.

Bu pwyllgor gwaith Cyngor Sir Caerdydd yn ystyried yr ymateb i'r cynllun diweddara ddydd Iau.

Cymeradwyodd y pwyllgor gynlluniau i godi'r ysgol newydd ar Ffordd Sanatoriwm yng ngorllewin y ddinas.

Ym mis Medi fe wnaeth y cyngor gyfarfod i drafod lleoliad ar gyfer adeilad newydd i'r ysgol.

Bu ansicrwydd am ddyfodol lleoliad yr ysgol.

Roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod cynlluniau gwreiddiol y cyngor i gau ysgol cyfrwng Saesneg gerllaw a symud disgyblion Treganna yno.

Ond bwriad y cyngor sir yw codi ysgol newydd ar dir y cyngor ar Ffordd Sanatoriwm erbyn 2013.

Yn ôl y cyngor mae 'na gynnydd sylweddol yn y galw am addysg Gymraeg yn ardal Treganna, Glanyrafon a Grangetown.



HEFYD
Trafod adeilad newydd i ysgol
22 Hyd 10 |  Newyddion
Addysg Gymraeg: Datrys y ffrae?
21 Medi 10 |  Newyddion
'Angen i Carwyn Jones ailfeddwl'
06 Awst 10 |  Newyddion
Cyngor yn 'llusgo traed'
04 Meh 10 |  Newyddion
Gwers fel protest yn Y Senedd
29 Meh 10 |  Newyddion
Plaid yn galw am esboniad llawn
30 Mai 10 |  Newyddion
Na i ehangu addysg Gymraeg
27 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific