British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Ebrill 2011, 15:42 GMT 16:42 UK
Pleidleisio: Gwybodaeth allweddol

Pobl yn pleidleisio
Mae gan bawb ddwy bleidlais

Peidiwch â chredu unrhyw broffwydoliaethau am ganlyniad tebygol Etholiad y Cynulliad ar Fai 5.

Mae cymhlethdod y system etholiadol yn ei gwneud hi lawer yn rhy anodd i unrhyw un i ddirnad holl bosibiliadau'r hyn all ddigwydd unwaith y bydd pawb wedi bwrw pleidlais.

Ond peidiwch â gadael i hynny darfu arnoch chi!

Oherwydd mae'r hyn y mae ar etholwyr angen ei wybod yn hynod o syml.

Mae 40 o etholaethau lleol ac 20 sedd arall, wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng pum etholaeth ranbarthol fawr.

Mae gan bawb ddwy bleidlais.

Un bleidlais i ethol aelod i'r etholaeth ac un bleidlais i ethol aelod i'r rhanbarth.

Mae'r gystadleuaeth yn yr etholaethau'n eithaf syml - rhestr o ymgeiswyr lleol, pob un yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, fel maen nhw yn etholiadau'r cyngor neu mewn etholiad cyffredinol.

Ail bleidlais

Mae pob unigolyn yn pleidleisio dros ei hoff ymgeisydd, a bydd pwy bynnag sy'n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau - hyd yn oed pe bai hynny gyda mwyafrif o un - yn ennill.

Enw'r system hon yw'r Cyntaf i'r Felin, a dyma'r ffordd draddodiadol y mae etholiadau wedi'u hennill a'u colli yn holl etholiadau'r Deyrnas Gyfunol.

Mae etholiadau'r Cynulliad yn wahanol gan fod gan bleidleiswyr ail bleidlais.

Yn achos yr ail bleidlais, gofynnir i etholwyr fwrw'u pleidlais dros blaid wleidyddol, yn hytrach nag unigolyn.

SYSTEM BLEIDLEISIO'R CYNULLIAD
Mae gan bawb ddwy bleidlais - un bleidlais i ethol aelod i'r etholaeth ac un bleidlais i ethol aelod i'r rhanbarth
Gall pleidleiswyr bleidleisio unwaith neu ddwywaith
Os ydyn nhw'n pleidleisio ddwywaith gallan nhw bleidleisio dros yr un blaid neu i bleidiau gwahanol
Mae yna 40 etholaeth sy'n ethol un AC yr un, a phum rhanbarth sy'n ethol pedwar AC yr un
Ers Deddf Llywodraeth Cymru 2006, dyw ymgeiswyr ddim yn medru sefyll fel ymgeisydd o fewn etholaeth yn ogystal ag ar restr rhanbarth

Bydd y dewis o wahanol bleidiau sydd ar y papur pleidleisio hwn lawer yn fwy nag ar y papur cyntaf, gan adlewyrchu'r ffaith y gall pleidiau bychain wneud yn well drwy gronni eu pleidleisiau ar draws rhanbarth, yn hytrach na cheisio curo'r prif bleidiau mewn etholaethau llai.

Yn y gorffennol, mae rhai ymgyrchwyr wedi dweud bod rhai etholwyr wedi camddeall y system hon i raddau ac yn meddwl bod angen i rywun fwrw'u hail bleidlais i rywun gwahanol petaen nhw, er enghraifft, wedi pleidleisio dros Lafur gyda'u pleidlais gyntaf.

Mewn gwirionedd, mae perffaith hawl gan etholwyr i ddefnyddio'r ddwy bleidlais mewn unrhyw ffordd, gydag unrhyw gyfuniad, heb unrhyw gyfyngiadau.

Y rheswm dros y system etholiadol gymysg hon yng Nghymru yw er mwyn ceisio osgoi rhoi goruchafiaeth i un blaid yng ngwleidyddiaeth Cymru - cafodd ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod gan yr holl bleidiau gynrychiolaeth "deg" yng nghyfansoddiad gwleidyddol terfynol y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd cyflwyno'r elfen gyfrannol hon yn rhan allweddol o'r cytundeb a roddodd fodolaeth i ddatganoli.

Pleidiau llai

Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn enghraifft dda o'r ffordd y mae'r system yn gweithredu.

Mae 'na naw sedd etholaethol, gan gynnwys pump i Lafur, tair i Blaid Cymru, a dim ond un i'r Ceidwadwyr a dim un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae hyn er bod dros 20% o bobl yng Ngogledd Cymru wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr a 10% dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

blwch pleidleisio
Gall etholwyr ddefnyddio'r ddwy bleidlais mewn unrhyw ffordd

Felly, er mwyn cynnig cydbwysedd "teg" mae'r pleidiau llai yn cael cyfran decach (er nad yw'n gwbl gyfrannol) o'r seddi.

Nid oes modd gwadu bod goblygiadau'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio yn anodd os nad yn amhosib eu rhagweld.

Eto, rydym yn gwybod y bydd y gornestau pwysicaf yn yr etholiad hwn yn yr etholaethau ymylol allweddol, gan fod traean o'r seddi yn seddi etholaethol, gan mai enillion a cholledion yr etholaethau fydd yn penderfynu a oes mwyafrif gan Lafur.

Pob pleidlais yn cyfrif

Pleidleisiau'r rhestrau rhanbarthol fydd yn llunio cydbwysedd y pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol, ond canlyniadau'r etholaethau yw meysydd allweddol y gad o ran cael gafael ar rym.

Ymhellach, pan fydd canlyniadau'r ddwy bleidlais wedi'u cyfuno, yna'r casgliad cyffredinol yw bod yr etholiad hwn a'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio yn cyfrif go iawn.

Yn wir, oherwydd bod system y Cynulliad yn ei gwneud hi'n anodd iawn i unrhyw blaid unigol ennill mwyafrif, yna mae pob pleidlais yn cyfrif - mewn ffordd llawer mwy ystyrlon nag mewn etholiad traddodiadol yn null San Steffan.

Mae hyn yn arbennig o wir mewn etholiad sydd â nifer isel yn pleidleisio, ble mae gallu pob plaid i ysgogi'u hetholwyr craidd yn allweddol.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific