Mae'r Ceidwadwyr yn addo cadw'r doll yn £5.70 i geir
|
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud na fydden nhw'n cynyddu'r doll i groesi Pont Hafren. Byddai cadw'r doll ar y £5.70 presennol am bedair blynedd yn costio £29 miliwn i'r Cynulliad, yn ôl y blaid. Mae Llafur yn disgrifio'r addewid fel "ystum gwleidyddol", mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud na fyddai'n effeithio ar lorïau ac mae Plaid Cymru'n galw am doll o £2 ar ôl 2017. Astudiaeth annibynnol Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi ymrwymo i gomisiynu astudiaeth annibynnol o effaith y tollau ar economi Cymru pe baen nhw'n ennill etholiad Mai. Pe bai llywodraeth Geidwadol yn rheoli Bae Caerdydd, bydden nhw'n cadw'r doll o £5.70 am gar ar bontydd yr M48 a'r M4 tan 2015. Fe fyddai'r llywodraeth honno'n talu'r cwmni sy'n rhedeg tollbyrth y pontydd - Severn River Crossing plc - i gynnal y pris presennol. Argymhelliad i ostwng y pris Fis Rhagfyr y llynedd, dywedodd yr ASau ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y byddai lleihau pris y doll yn achosi "costau mawr." Ond un o argymhellion y pwyllgor oedd i dorri'r tollau a rhoi gostyngiadau i bobl sy'n dibynnu ar groesi'r bont am eu bywoliaeth. Dywedodd Mohammad Asghar, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru, fod ei blaid am "ryddhau teuluoedd o faich y cynnydd ym mhris y doll dros y bont." "Mae'r ymrwymiad yma'n rhoi stop ar y cynnydd blynyddol ac yn sicrhau bod y gost i yrrwyr ceir yn lleihau mewn termau real dros dymor nesaf y Cynulliad." Datganoli pontydd Dywedodd Plaid Cymru y dylai'r Cynulliad gael pŵer dros bontydd ac y dylai'r doll fod yn llai na £2 ar ôl iddyn nhw ddod nôl i ddwylo'r cyhoedd yn 2017. "Byddai llywodraeth Plaid Cymru'n dechrau trafodaethau'n syth i ddatganoli rheolaeth dros bontydd, neu i gael rheolaeth ar y cyd, dros bontydd i Gymru," meddai ymgeisydd y blaid yn Islwyn, Steffan Lewis. "Pe baen ni'n rheoli'r pontydd, bydden ni'n lleihau'r gost i lai na £2 y car." Costau tanwydd Tra'n ymgyrchu yn y Barri, dywedodd Jane Hutt, ymgeisydd Llafur ym Mro Morgannwg, bod y cynnig yn "ddim" o ran ymdrin â'r mater. "Os nad ydyn nhw'n mynd i wneud rhywbeth am bris tanwydd ac yn y blaen, wel beth mae'n ei olygu o ran rhewi'r doll? "Nid yw'n ddim ond ystum gwleidyddol os ydych chi'n gofyn i fi." 'Treth ar fusnes' Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyrain Casnewydd, Ed Townsend, yn dweud bod angen cael gwared ar y tollau ond bod cynlluniau'r Ceidwadwyr yn golygu y bydd lorïau'n dal i orfod talu. "Byddai'r dreth ar fusnesau yn parhau," meddai Mr Townsend. "Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi lobïo'r ysgrifenydd gwladol sy'n gyfrifol am y mater yma - yn gyntaf Llafur a nawr y Ceidwadwyr - yn gyson. "Efallai y dylai'r Ceidwadwyr wneud yr un peth."
|