Ymgartrefodd y Cymry gyntaf ym Mhatagonia yn 1865
|
'Rhagorol' oedd y clod i ddwy o gylchoedd meithrin Cymraeg Patagonia sydd wedi cael sêl bendith y Mudiad Ysgolion Meithrin. Er eu pellter o'r famwlad, roedd y mudiad yn falch o roi sêl 'Y Cylch Rhagorol' i'r cylchoedd meithrin yn Nhrelew a'r Gaiman yn yr Ariannin. Meddai'r arolygwr, Nesta Jones, oedd wedi ymweld â'r sefydliadau tra ar ei gwyliau yn y Wladfa y llynedd: "Roedd cynnal arolwg mewn dau gylch Cymraeg eu hiaith yn Ne America yn brofiad unigryw. "Roedd yn wahanol ar un ystyr ac eto yn debyg; yr un oedd y gofynion; yr un oedd y safon oedd angen ei gyrraedd a hyfryd gallu cydnabod gwaith caled yr arweinyddion a'r pwyllgorau drwy ddyfarnu eu bod yn llawn haeddu sêl 'Y Cylch Rhagorol." Mae'r dystysgrif yn cydnabod rhagoriaeth ym myd gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol. 150 o flynyddoedd Wrth asesu'r cylchoedd meithrin, cymerodd Mrs Jones i ystyriaeth y bobl, yr amgylchedd, a'r profiadau a gaiff y plant yn eu gofal. Bydd y plant yma wedyn yn cael ei hybu i barhau gyda'r Gymraeg gyda chymorth Menter Patagonia. Meddai Aled Rees o gwmni Teithio Tango, sydd wedi noddi dau o swyddogion y fenter ar ôl ymweld â'r Wladfa sawl gwaith: "Maen nhw'n cynnal lot o glybiau, nosweithiau dawns gwerin a cherddoriaeth i gael y plant allan o'u cartrefi ac at ei gilydd i ymarfer y Gymraeg. Mae hynny'n bwysig. "Mae'n anhygoel mewn lle mor fawr, gyda chyn lleied yn byw yna, bod yr iaith yn parhau ar ôl 150 o flynyddoedd. Maen nhw wedi aberthu llawer i'w chadw'n fyw a'r lleiaf fedrwn ni ei wneud yw eu helpu i'w chadw ymlaen." 'Cymraeg ar y stryd' Er bod llawer o'r rhai sy'n siarad Cymraeg yn bobl hŷn, dywedodd Aled Rees fod sawl rhiant nad ydyn nhw o dras Gymreig yn dysgu'r iaith ac am anfon eu plant i'r cylchoedd meithrin.
Cafodd y tystysgrifau eu cyflwyno ar ran y mudiad gan Luned Gonsales.
|
"Rydym yn sôn am filoedd sy'n siarad neu'n deall ychydig o Gymraeg," meddai. "Wrth gerdded i lawr y stryd yn Nhrelew, mwy na thebyg y byddech chi'n gallu ffeindio rhywun sy'n siarad Cymraeg, a mwy fyth yn y Gaiman." Dywedodd Luned Gonzales, a gyflwynodd y dystysgrif i gylch meithrin Trelew a'r Gaiman ar ran y mudiad: "Roedd pawb yn hapus iawn ar yr achlysur arbennig yma. "Cafwyd seremoni ar y stryd o flaen yr ysgol (Ysgol yr Hendre, Trelew). "Roedd llawer o rieni, neiniau, athrawon, a'r plant wrth gwrs yn bresennol, ac roedd pawb yn teimlo'n falch iawn o'r fraint a'r anrhydedd o dderbyn y dystysgrif arbennig yma gan y Mudiad Ysgolion Meithrin".
|