British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 09:36 GMT 10:36 UK
Anfodlon gyda chynlluniau i godi fflatiau i rai dros 55

Blaenau Ffestiniog
Dywed gwrthwynebwyr bod mwy o adnoddau ym Mlaenau Ffestiniog nag yn Llan Ffestiniog

Mae cynlluniau i godi dros 30 o fflatiau gofal ychwanegol i bobl hyn yn Llan Ffestiniog wedi cythruddo pobol yr ardal.

Maen nhw'n dadlau bod y cynllun ar gyfer 35 o unedau yn rhy fawr ar gyfer y safle.

Maen nhw'n dweud hefyd nad ydyn nhw'n gweddu i gymeriad y pentre bach.

Ond mae'r datblygwyr, Cymdeithas Tai Eryri, wedi adolygu'r cynlluniau ers eu cyflwyno yn wreiddiol.

Eu dadl nhw yw eu bod wedi gwrando ar bryderon lleol a bod y cynllun yn rhan bwysig o strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer pobol hyn yn y sir.

Cymdeithas Tai Eryri mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd sydd am godi'r fflatiau gofal ychwanegol i bobl dros 55 oed.

Cyfleusterau

Ond mae 'na nifer yn gwrthwynebu'r cynllun yn ôl y Cynghorydd Linda Jones sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd.

"Does 'na ddim byd yn bod efo'r cynllun o ddarparu tai gofal ychwanegol

"Mynd i ddod a rhoi llefydd i bobl hyn fyw, ond y broblem yw'r lleoliad."

Dywedodd mai ym Mlaenau Ffestiniog yr oedd y datblygiad i fod.

"Mae 'na siopau yna, canolfan iechyd ac ysbyty yno," meddai.

"Does 'na ddim byd yn Llan.

"I gyrraedd y siop mae angen mynd i fyny dwy allt ac i lawr allt i fynd i'r feddygfa.

"Mae'n hollol anaddas."

Ymgynghoriad

Eglurodd bod 'na deimladau bod y tir yn rhy fach ar gyfer y cynllun sydd "yn rhy fawr i Llan Ffestiniog".

"Dwi'n credu bod 'na 100 y 100 o wrthwynebiad i'r cynllun yn y pentre.

"Fe ddylai fod yn lle mae 'na adnoddau ar gyfer yr henoed."

Dywedodd Walis George, prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri, nad oes 'na safle perffaith ar gyfer unrhyw gynllun heb son am gynllun mor arbenigol â'r un yma.

"Mae 'na ymgynghoriad helaeth wedi bod am sawl blwyddyn am safleoedd yn yr ardal.

"Mae yng nghanol y gymuned, yn agos at gyfleusterau sydd yna, cartref gofal y cyngor nepell o'r safle.

"Dydan ni ddim yn ystyried y cynllun fel un anaddas."

Dywedodd eu bod ystyried y sylwadau wedi'r ymgynghoriad gwreiddiol, wedi cael asesiad annibynnol, wedi cyfaddawdu maint unedau a'r cynllun.

Ychwanegodd y byddan nhw'n bwrw mlaen gyda'r cynllun a fydd yn cynnig llety modern a fforddiadwy ar gyfer sawl cenhedlaeth hyn yn ardal Ffestiniog petai'r cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo.

Fe fydd Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod y mater yr wythnos nesa.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific