British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Ebrill 2011, 09:06 GMT 10:06 UK
Afghanistan: Cwest Cymro

Bombardier Samuel Robinson
Roedd Sam Robinson yn hyfforddwr ymarfer corff.

Dydd Mercher bydd cwest i farwolaeth milwr o Gymru oedd y 100fed aelod o luoedd y DU i farw yn ardal Sangin o Afghanistan.

Bu farw Sam Robinson - aelod o gatrawd y Magnelwyr Brenhinol - mewn ffrwydrad ar Orffennaf 8, 2010.

Roedd y milwr 31 oed o Gaerfyrddin ar ei bedwaredd daith i Afghanistan.

Roedd yn hyfforddwr ymarfer corff ac wedi bod yn aelod o'r fyddin am 11 mlynedd. Adeg ei farwolaeth dywedodd ei deulu:

"Roedd Sam yn gwneud gwaith yr oedd yn ei garu, ac roedd yn falch iawn o'i waith.

"Rydym ni yn falch iawn ohono fe, ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl am byth."

'Uchel ei barch'

Cafodd Sam Robinson ei ddisgrifio gan ei bennaeth, yr is-gyrnol Richard Hayhurst, fel dyn dewr oedd yn uchel ei barch ymhlith pawb oedd yn ei adnabod. Dywedodd:

"Roedd cryfder ei gymeriad, ei broffesiynoldeb a'i wytnwch yn ei wneud yn rym sylweddol.

"Roedd yn batrwm ymddwyn perffaith i weddill ei gatrawd yn enwedig aelodau ifanc.

"Roedd yn berson arbennig ac fe fydd colled ar ei ôl."

Bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Llys Crwner Wiltshire a Swindon yn Trowbridge.



HEFYD
Esgob yn ymddiheuro am bregeth
03 Awst 10 |  Newyddion
Angladd milwr fu farw'n Afghanistan
30 Gorff 10 |  Newyddion
Teulu'n rhoi teyrnged i filwr
10 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific