Dywedodd ei theulu nad oedd Cerys fyth yn defnyddio gwelyau haul
|
Wythnosau ar ôl marwolaeth myfyrwraig ifanc mae elusen wedi rhybuddio bod cyfradd canser y croen ymhlith pobl ifanc wedi treblu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Bu farw Cerys Harding, 21 oed o Abertawe, bedwar mis ar ôl iddi gael gwybod ym mis Tachwedd bod canser arni - er ei bod bob amser yn ofalus wrth osgoi'r haul. Dywedodd ei mam, Beverly, 50 oed: "Roedd Cerys mor ofalus. Hi fyddai'r unig berson ar y traeth oedd â thywel drosti yn ogystal ag odani. Roedd hi'n casáu'r haul. "Fydden ni fyth wedi meddwl y gallai hyn ddigwydd i Cerys. Roedd ganddi gymaint i'w gynnig". Dywedodd nad oedd Cerys fyth yn defnyddio gwelyau haul. 40 person ifanc Yn ôl Ymchwil Canser UK, mae achosion melanoma canseraidd y croen ymhlith pobl rhwng 15 a 34 oed wedi cynyddu o ddau berson i chwe pherson ym mhob 100,000 ers diwedd yr 1970au. Mae hyn yn golygu y bydd tua 40 person ifanc o dan 35 oed yn cael diagnosis eu bod yn dioddef o ganser y croen eleni. Daw'r wybodaeth hon i'r golwg ddau ddiwrnod cyn i bobl dan 18 oed gael eu gwahardd rhag defnyddio gwely haul yng Nghymru.
 |
Gall defnyddio gwely haul am y tro cyntaf cyn ichi fod yn 35 oed gynyddu'r risg o ddatblygu melanoma o 75 y cant
|
Mae ffigyrau diweddaraf yr elusen hefyd yn dangos fod 555 o bobl o bob oedran yn datblygu'r clefyd hwn yng Nghymru bob blwyddyn. Rhyddhawyd y wybodaeth gan yr elusen wrth iddyn nhw lansio eu hymgyrch 'SunSmart' ar gyfer 2011. 'Peryglon' Dywedodd Caroline Cerny, rheolwr yr ymgyrch: "Mae'n bryderus iawn fod cymaint o bobl ifanc yn dioddef o'r clefyd hwn a allai fod yn farwol. "Mae'n bwysig iawn inni i gyd fod yn ymwybodol o beryglon llosgi yn yr haul, yn enwedig gan fod pawb yn edrych ymlaen at yr haf ar ôl gaeaf mor galed. "Rhaid i fenywod ifanc, yn enwedig, fod yn ofalus am eu bod ddwywaith mwy tebygol na dynion i gael diagnosis eu bod yn dioddef o ganser y croen." Bydd pobl dan 18 oed yn cael eu gwahardd rhag defnyddio gwely haul yng Nghymru o Ebrill 8 ymlaen. Cyfarpar addas O dan y canllawiau fe fyddai'n rhaid i salonau haul ddarparu cyfarpar addas i oruchwylio'r llygaid i oedolion sy'n defnyddio'r gwelyau haul ac arddangos gwybodaeth iechyd sydd wedi ei chymeradwyo. Yn ôl arolwg yr elusen yn 2009 roedd 8.2% o blant 11-17 oed yng Nghymru wedi defnyddio gwely haul o leiaf unwaith gyda 16% yn dweud y bydden nhw'n eu defnyddio yn y dyfodol. Ychwanegodd Mrs Cerny: "Dyw defnyddio gwelyau haul ddim yn opsiwn diogel i gael lliw haul. "Gall defnyddio gwely haul am y tro cyntaf cyn ichi fod yn 35 oed gynyddu'r risg o ddatblygu melanoma o 75 y cant."
|