British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2011, 18:54 GMT 19:54 UK
Passchendale: Cynllun cofeb i filwyr Cymraeg

Brwydr Passchendale
Bu farw 70,000 o filwyr yn ystod brwydr Passchendale

Mae cynllun ar y gweill i godi cofeb ar y safle lle lladdwyd cannoedd o filwyr o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn.

Bu'r Corfflu Cymreig yn brwydro yn Nhrydedd Frwydr Yprés neu Passchendale yn 1917 lle bu farw 70,000 o filwyr Prydeinig.

Ond mae Cymdeithas Passchendale yng Ngwlad Belg am godi 50,000 euro (£44,000) i greu cofeb ar ffurf Draig Goch.

Y nod yw codi rhywfaint o'r arian yng Nghymru.

Dywedodd cadeirydd y mudiad, Freddy Declerck, mai syniad Marc Decaestecker, perchennog bwyty ar y safle lle y lladdwyd Hedd Wyn, oedd hwn.

"Mae Marc wedi gosod plac coffa ar yr adeilad a dywedodd mai ei freuddwyd oedd gosod cofeb lawn iddo," meddai.

Mae Mr Decaestecker yn codi baner Cymru y dydd Llun cyntaf bob mis cyn cynnal gwasanaeth yno
Peter Carter Jones

"Ond fe ddywedais i y dylen ni greu grŵp i godi arian am gerflun er cof am yr holl filwyr o Gymru fu farw yma."

'Arwr'

Roedd llawer o'r milwyr a laddwyd yn y frwydr yn aelodau o'r 38fed Adran Gymreig.

Un ohonyn nhw oedd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd gafodd ei ladd ar Orffennaf 31, 1917.

Pan oedd yn y ffosydd, roedd Evans neu Hedd Wyn, wedi cystadlu am y Gadair ar y thema 'Arwr' yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Yn ystod seremoni'r Cadeirio, cyhoeddwyd bod y bardd buddugol wedi syrthio ar faes y gad a chafodd y gadair ei gorchuddio â lliain du.

Clywodd Peter Carter Jones, o Abercraf, Cwm Tawe, am y syniad i godi'r gofeb ar ôl iddo gyfarfod â Mr Decaestecker yn Yprés.

"Mae e'n codi baner Cymru y dydd Llun cynta bob mis cyn cynnal gwasanaeth yno," meddai.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific