Mae Plaid Cymru yn addo 'Cymru well'
|
Mae Plaid Cymru wedi lansio'u hymgyrch etholiadol gyda phedwar addewid "dros Gymru well" ddydd Mercher. Mewn gwesty yn Neganwy, Conwy, addawodd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones y byddai ei blaid yn gwella'r economi a chreu system addysg well. Blaenoriaeth llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru fyddai creu swyddi a delio ag anllythrennedd ac mae addewid i sicrhau gofal iechyd cyflymach a mwy effeithiol, a gwella cysylltiadau trafnidiaeth a thechnoleg fel eu bod yn addas i genedl fodern yn y ganrif hon. 'Adeiladu dros Gymru' Conglfaen ymgyrch Plaid Cymru fydd eu haddewid i greu cronfa "Adeiladu dros Gymru" gwerth £500m gyda'r cyllid yn dod o gwmni preifat hyd fraich oddi wrth y llywodraeth fyddai'n benthyg arian oddi wrth y farchnad arian.
 |
Addewidion Plaid Cymru
Meddyg a deintydd pan fo'u hangen
Cysylltu Cymru - mwy o gyswllt band llydan ar draws Cymru, mwy o WiFi ar drafnidiaeth gyhoeddus; trydaneiddio'r rheilffyrdd yn y Cymoedd a gogledd Cymru
|
Byddai'r cwmni wedyn yn cyllido cynlluniau yng Nghymru a byddai rhaid iddyn nhw dalu'r arian nôl gyda llog dros gyfnod o flynyddoedd -er enghraifft pe bai'r arian yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ysgol, byddai rhaid i'r cyngor dalu'r arian yn ôl. Mae Plaid Cymru yn dweud y byddai'r cynllun yn creu 50,000 o swyddi. Prif addewid arall yw taclo anllythrennedd, gan haneru'r broblem erbyn 2016 a'i ddileu "bron yn llwyr" erbyn 2020. 'Dau ddewis' Mae Mr Jones yn mynnu bod angen "plaid â gweledigaeth" i drawsnewid Cymru mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad ac yn hawlio mai Plaid Cymru fydd y blaid honno. Dywedodd bod dau ddewis gan etholwyr - Plaid Cymru sydd am drawsnewid Cymru dros y ddegawd nesaf neu'r pleidiau eraill sy'n "trin Etholiad y Cynulliad fel rhywbeth hanner-ffordd". "Rwy'n sicr yn awr fod y Cynulliad wedi ennill ei le fel rhan annatod a hanfodol o'n cenedl fodern sy'n datblygu," meddai gan ddweud bod y refferendwm pwerau ar Fawrth 3 yn dangos bod y Cynulliad yn bwysig i bawb yng Nghymru. "Ni ddylai'r etholiadau hyn felly fod yn refferenda am rôl datganoli ond yn farn am ba blaid sy'n meddu ar y weledigaeth, yr angerdd a'r ynni i greu Cymru well. "Plaid Cymru yw'r unig blaid yn yr etholiad hwn fydd yn ceisio trawsnewid Cymru nid dim ond rheoli Cymru." 'Codi safonau' Mae Mr Jones yn cydnabod bod mwy o her o flaen y llywodraeth nesaf "o gofio'r hinsawdd economaidd" bresennol ac mae'n beio'r sefyllfa ar Lafur a hefyd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu rôl yn San Steffan. "Ond mae'r Blaid yn addo, yn groes i Lafur, na fydd yn defnyddio hyn fel esgus am safonau isel a pherfformiad gwael," meddai. "Codi safonau yn gyffredinol yw ein nod a bydd llywodraeth y Blaid yn gwneud hynny. "Credwn y bydd ein pedwar addewid allweddol ar gyfer llywodraeth nesaf y Cynulliad yn codi ac yn ateb disgwyliadau pobl Cymru."
|