Llwyn Isaf, ger pencadlys Cyngor Wrecsam, yw un o'r ardaloedd dan sylw
|
Mae Aelod Seneddol Wrecsam wedi beirniadu cynllun yr awdurdod lleol i wahardd ymgyrchu gwleidyddol mewn rhannau o ganol y dref. Ddydd Mercher mae Cyngor Wrecsam yn trafod y cynllun fydd yn golygu "na chaiff gweithgareddau neu ddigwyddiadau gael eu cynnal i hybu pleidiau, grwpiau, sefydliadau neu unigolion i bwrpasau gwleidyddol" yn Sgwâr y Frenhines na Llwyn Isaf. Dywedodd Ian Lucas AS fod hyn yn "warthus" ac yn embaras i Wrecsam. Nid yw'r Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru na'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r cynllun. Adolygu Fe wnaeth yr awdurdod lleol adolygu eu gweithdrefnau ar gyfer digwyddiadau yn y dref wedi i'r English Defence League a'r Welsh Defence League ddatgan eu bwriad i gynnal gorymdeithiau yno ddwy flynedd yn ôl. Mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod ddydd Mercher, mae'n dweud: "Yn ystod 2009 pan nododd yr EDL a'r WDL eu bwriad i orymdeithio i mewn i Wrecsam, fe wnaeth y Tîm Cynllunio Argyfwng ofyn am adolygu'r gweithdrefnau er mwyn sicrhau y byddai digwyddiadau gwleidyddol yn y dyfodol beidio cael mynediad i Sgwâr y Frenhines na Llwyn Isaf. "Mae'r prif swyddogion cyfreithiol a gwasanaethau democrataidd yn credu y dylid addasu'r gweithdrefnau i gynnwys cymal sy'n cryfhau safbwynt y cyngor drwy ddweud na fydd unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiad sy'n hybu plaid, grŵp neu unigolyn gael mynediad." Anghyfreithlon?
 |
Mae gweld is-bwyllgor cyngor yn cymryd y cam yma, a gwneud hynny heb drafodaeth gyhoeddus, yn warthus
|
Dywedodd yr AS Ian Lucas: "Mewn democratiaeth, mae'r hawl i ddatgan barn yn sylfaenol. "Dylid ond ystyried cyfyngu ar yr hawl yma mewn amgylchiadau eithafol. "Mae gweld is-bwyllgor cyngor yn cymryd y cam yma, a gwneud hynny heb drafodaeth gyhoeddus, yn warthus." Roedd hefyd yn amau a fyddai'r newid yn gyfreithlon. 'Annog a chefnogi' Dywedodd arweinydd y cyngor, Aled Roberts - sydd hefyd yn ymgeisydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol i ranbarth Gogledd Cymru: "Rwyf o'r farn y dylid annog a chefnogi unrhyw weithgaredd gwleidyddol. "Cafodd y cynnig yma ei gyflwyno gan swyddogion i Fwrdd y Cyngor yn wreiddiol ym mis Chwefror. "Y rheswm dros ei yrru yn ôl i'r pwyllgor craffu i ail-edrych arno oedd am ein bod yn anhapus gyda'r cynnig, a'n bod am sicrhau bod yr hawl i brotestio a thrafod gwleidyddol yn cael ei gadw." 'Anffodus' Ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Wrecsam yw John Marek, a dywedodd: "Mae hi ond yn iawn fod ymgeiswyr etholiadol sydd am siarad gydag etholwyr yn yr ymgyrch ac o fewn y gyfraith yn cael yr hawl i wneud hynny. "Mae hi'n anffodus bod swyddogion y cyngor yn ystyried y grymoedd hyn, allai gael effaith negyddol ar faint o bobl fydd yn pleidleisio. "Gobeithio bydd cynghorwyr yn amddiffyn y broses ddemocrataidd a hawliau'r etholwyr wrth wneud eu dewis democrataidd." 'Arswydus' Mae ymgeisydd Plaid Cymru yn Wrecsam, Marc Jones, hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Craffu'r Drefn Lywodraethol fydd yn trafod y cynllun, a dywedodd: "Fe fyddai'n arswydus i'r cyngor geisio gwahardd cyfarfodydd gwleidyddol democrataidd. "Mae pleidiau gwleidyddol wedi bod yn cwrdd yn y dref am ddegawdau heb y math yma o driniaeth lawdrwm, ac fe fyddaf yn gwrthwynebu'r cynnig yma i'w gwahardd. "Mae'r EDL yn cael eu defnyddio fel esgus i wahardd prosesau gwleidyddol cyfreithlon, ac ni ddylid caniatáu hynny."
|