British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Ebrill 2011, 05:53 GMT 06:53 UK
Gwrthod cyffuriau i gleifion canser

Cyffuriau canser

Mae elusen yn honni bod 30 o gleifion canser yng Nghymru wedi cael eu gwrthod rhag cael cyffuriau ar y Gwasanaeth Iechyd, cyffuriau a allai fod wedi estyn eu bywydau.

Yn ogystal, fe wnaeth 91 o gleifion apelio am arian am driniaeth oedd wedi cael ei argymell gan feddyg gan ddefnyddio "gweithdrefnau achosion neilltuol" gan nad oedd ar gael fel arfer.

Daeth yr wybodaeth i'r amlwg wedi cais y Sefydliad Canserau Prin o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai'r llywodraeth nesaf yn ystyried canlyniadau'r adroddiad a'i argymhellion.

'Loteri'

Dylai triniaeth fod ar gael ar sail angen clinigol, ac nid ar sail loteri yn dibynnu ar ba ochr i'r ffin yr ydych yn byw
Andrew Wilson

y Sefydliad Canserau Prin

Mae adroddiad yr elusen wedi dweud bod 30 o gleifion yng Nghymru wedi cael eu gwrthod rhwng Hydref 2009 a Rhagfyr 2010 rhag cael cyffuriau "allai fod wedi estyn eu bywydau".

Ac mae'r elusen yn gwneud 20 o argymhellion, gan gynnwys galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gyhoeddi adroddiad i nodi faint o ennill tir sy wedi bod wrth weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Routledge.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Andrew Wilson: "Dylai'r Gwasanaeth Iechyd fod yno pan ydych ei angen ond, yn anffodus, nid dyna sy'n digwydd i bob claf canser yng Nghymru.

"Dylai triniaeth fod ar gael ar sail angen clinigol, ac nid ar sail loteri yn dibynnu ar ba ochr i'r ffin yr ydych yn byw.

"Mae'r adroddiad yn profi bod cleifion yng Nghymru yn cael eu gwrthod am driniaeth fyddai ar gael iddyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU.

"Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad edrych ar y dystiolaeth a gweithredu i wella'r system annheg hon."

'Pob cyffur newydd'

Mae adroddiad yr elusen, Cymru Neilltuol?, yn honni bod 22 o gyffuriau ddim ar gael ar hyn o bryd i gleifion yng Nghymru - ond y gall meddygon yn Lloegr wneud cais i'w cael i'w cleifion.

Ond dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod "pob cyffur newydd sy'n cael eu barnu yn glinigol a chost effeithlon gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd.

"Os nad yw'r cyffuriau wedi eu cymeradwyo neu'n disgwyl cymeradwyaeth, mae gweithdrefnau mewn lle i roi mynediad i'r cyffuriau hynny mewn amgylchiadau neilltuol," meddai'r llefarydd.

Ond mae'r adroddiad wedi dweud mai dim ond 67% o geisiadau felly sy'n cael eu cymeradwyo tra bod 87% yn yr Alban.



HEFYD
Cyffuriau canser: 'Ddim ar gael'
24 Medi 09 |  Newyddion
Gwrthod cyffuriau canser arennol?
26 Awst 09 |  Newyddion
O blaid cyffur canser y gwaed
30 Ion 09 |  Newyddion
Canser: Cyffuriau drud i gleifion
22 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific