British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2011, 15:06 GMT 16:06 UK
Cynghorau yn ennill frwydr i adennill miliynau

Banc Glitnir
Buddsoddodd y ddau gyngor 2m ym Manc Glitnir

Mae dau awdurdod lleol yn gobeithio adennill miliynau o bunnoedd yr oedden nhw wedi buddsoddi ym manciau Gwlad yr Iâ.

Roedd pryderon y byddai Cyngor Ceredigion a Chyngor Powys yn colli'r rhan helaeth o'r £9.5m o arian cyhoeddus gafodd eu buddsoddi mewn dau fanc pan chwalodd system ariannol Gwlad yr Iâ yn 2008.

Ond mae llys yn y wlad honno wedi dweud bod gan awdurdodau flaenoriaeth ymysg credydwyr Banc Landsbanki a Banc Glitnir.

Roedd Cyngor Powys wedi buddsoddi £2m yn y ddau fanc.

Byddwn ni'n gweithio ag awdurdodau eraill os bydd her gyfreithiol i'r penderfyniad hwn
Llefarydd ar ran Cyngor Powys

Buddsoddodd Cyngor Ceredigion £2.5m ym Manc Landsbanki a £2m ym Manc Glitnir.

Dywedodd Y Farwnes Margaret Eaton, Cadeirydd y Gymdeithas Llywodraeth Leol: "Gall sicrhau statws blaenoriaethol arbed £400m i drethdalwyr Prydain.

"Mae'r arian hwn yn bwysig yn ystod cyfnod pan mae awdurdodau lleol angen gwneud y gorau o'u hadnoddau a helpu lleddfu baich toriadau cyllid."

95 y cant

Gallai hyn golygu y bydd Ceredigion yn adennill £2.375m neu 95 y cant o'u buddsoddiad ym Manc Landsbanki.

Yn ogystal mae'n debyg y bydd yn adennill y cyfan o'r £2m gafodd eu buddsoddi ym Manc Glitnir.

Mae'r cyngor sir eisoes wedi adennill dros hanner y £1m gafodd eu buddsoddi ym Manc Heritable.

Pe bai'r llys ddim wedi rhoi blaenoriaeth i gynghorau sir, dim ond tua £1.5m o'r £4.5m a fuddsoddwyd gan Cyngor Ceredigion y byddai wedi'u hadennill.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys y byddai'r awdurdod yn debyg o adennill £3m o'r £4m a fuddsoddwyd yn y ddau fanc.

"Mae cost y broses gyfreithiol hyd yn hyn yn llai nag un y cant o'r swm rydyn ni'n disgwyl ei adennill," ychwanegodd.

"Byddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau eraill os bydd her gyfreithiol i'r penderfyniad hwn."



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific