British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Ebrill 2011, 15:55 GMT 16:55 UK
Llafur a Plaid: 'Tactegau brwnt'

Peter Hain ar Question Time
Mae'r daflen ddadleuol yn cyhuddo Peter Hain o gynllwynio

Mae dadl am dactegau brwnt wedi codi rhwng Llafur a Phlaid Cymru oherwydd cyhoeddi taflen a gwefan sy'n ymosod ar Ysgrifenydd Gwladol yr Wrthblaid ac yn annog pleidleiswyr i sicrhau na fydd Llafur yn ennill mwyafrif yn etholiad Mai.

Mae'r daflen yn cyhuddo Peter Hain AS o gynllwynio tu ôl cefn arweinydd Llafur, Carwyn Jones.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth, honnodd yr AS Llafur Chris Bryant mai swyddfa etholaeth Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, oedd yn gyfrifol am y daflen.

Dadansoddiad Vaughan Roderick

Does 'na fawr o amheuaeth mai gwefan ffug yw'r wefan y mae Llafur yn cwyno yn ei chylch ac nad oes ganddi unrhyw gysylltiad go iawn â Phlaid Cymru.

Mae pwy bynnag luniodd y wefan wedi rhoi cyfle i Lafur ymosod ar Blaid Cymru ac mae'n anodd i'r blaid honno ymateb heb ddyrchafu'r stori.

Mae'r ffaith bod ffrae mor amrwd wedi digwydd yn gynnar yn yr ymgyrch yn awgrymu y gallai ymgyrch eleni fod yn llawer llai bonheddig na rhai'r gorffennol.

Annog pleidleisio tactegol

Cyfeiriodd at daflenni oedd yn cael eu dosbarthu'n ddiweddar yn annog pobl i bleidleisio'n dactegol yn erbyn Llafur mewn nifer o etholaethau ymylol allweddol.

"Dydy'r wefan, mae'n ymddangos, ddim mor ddi-enw oherwydd mae'n glir ei bod wedi ei chynhyrchu gan bobl sy'n gweithio yn swyddfa Arweinydd Plaid Cymru, Mr Ieuan Wyn Jones.

"Felly alla i ond tybio - gan ei fod ef a'i swyddfa nawr yn annog pobl i bleidleisio dros y Ceidwadwyr mewn etholaethau yng Nghymru - eu bod yn bwriadu ymuno â meinciau'r Llywodraeth."

Gwadu'n chwyrn

Mae Plaid Cymru'n gwadu'n chwyrn bod ganddyn nhw unrhywbeth i'w wneud â'r daflen na'r wefan United and Welsh sy'n gysylltiedig â hi.

Mae'r wefan yn dweud mai ei hyrwyddwyr yw "cynghrair o ddinasyddion pryderus" sy'n dweud eu bod "yn credu nad yw'r Blaid Lafur yn barod i lywodraethu ar ei phen ei hun yn yr etholiad hwn."

Mae Llafur wedi dweud mai cyfeiriad cofrestru'r wefan yw'r un un â swyddfa etholaeth Ieuan Wyn Jones yn Llangefni ac fe ddefnyddiodd Mr Bryant bwynt trefn yn Nhŷ'r Cyffredin i honni mai swyddfa Mr Jones oedd yn gyfrifol amdani.

Ond gwadodd Plaid Cymru'r cyhuddiad yn syth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid "Does gan Blaid Cymru ddim cysylltiad â'r wefan hon na'i chynnwys."

'Derbyn gair'

Yn ddiweddarach ddydd Mawrth dywedodd Mr Hain ei fod "wrth gwrs, yn derbyn gair Ieuan Wyn Jones nad oedd yn bersonol â rhan yn hyn.

"Ond mae'n glir bod yna bobl sy'n ceisio hyrwyddo clymblaid Cenedlaetholwyr-Toriaidd-Democratiaid Rhyddfrydol sydd yn barod i daflu baw," meddai.

"Efallai eu bod yn Genedlaetholwyr wedi eu gyrru gan gasineb tuag at Lafur a'u gwrthwynebiad i bedair blynedd o lywodraethu ar y cyd gan Lafur-Plaid Cymru.

"Pwy bynnag ydyn nhw, maen nhw'n amlwg yn llwfr ac anonest."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific