Llafur yn dweud y bydd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cael gwared ar y cynllun
|
Fe fyddai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cael gwared ar gynllun Cymunedau'n Gyntaf pe baen nhw'n ennill yr etholiad, meddai Llafur Cymru. Mae Plaid Cymru yn dweud mai "taflu baw" yw hyn ac nad ydyn nhw erioed wedi dweud y byddan nhw'n cael gwared ar y cynllun. Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llafur o fethu â gwella safonau byw yng Nghymru ar waethaf 12 mlynedd o lywodraethu. Cymunedau'n Gyntaf yw'r cynllun gyflwynodd Llafur yn 2001 gyda'r nod o leihau tlodi a gwella bywydau pobl yn ardaloedd tlotaf Cymru. Mae'n rhoi arian i'r cymunedau tlotaf er mwyn i'r bobl leol benderfynu'r ffordd orau o wario'r arian. Fe feirniadodd yr Archwilydd Cyffredinol y cynllun yn 2009 ac roedd honiadau fod nifer o gynlluniau wedi eu cam-weinyddu. Cyfleon Wrth ymweld â chynllun Cymunedau'n Gyntaf yn Sir Gâr, dywedodd Huw Lewis, ymgeisydd Llafur ym Merthyr, fod y cynllun yn rhoi cyfleon i bobl leol - na fydden nhw'n eu cael fel arall - oherwydd sgiliau newydd a gwaith adfywio. "Gydol tymor y Cynulliad mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi bod yn glir iawn eu bod nhw'n gwrthwynebu Cymunedau'n Gyntaf," meddai. "Mae Llafur Cymru'n ymfalchïo yn y rhaglen oherwydd mae'n rhoi pŵer ac adnoddau yn nwylo pobl leol - nhw sy'n penderfynu beth yw'r blaenoriaethau. "Rydyn ni'n ymroddedig i'r cynllun." Dywedodd Plaid Cymru: "Dydyn ni ddim erioed wedi dweud y bydden ni'n cael gwared ar y cynllun. "Mae hwn yn gyhuddiad dan din gan blaid flinedig ag obsesiwn gyda'r cynllun biwrocrataidd presennol sy'n gweithredu o'r brig i lawr." Fe fyddai Plaid Cymru, meddai, "yn canolbwyntio cefnogaeth ar fentrau wedi eu harwain gan gymunedau sy'n gallu dangos canlyniadau pendant. "Mae cydnabyddiaeth bellach fod Cymunedau'n Gyntaf, dan arweinyddiaeth Llafur, wedi methu â cyflawni ei fwriadau ... fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, cyrhaeddiad addysgol a gwella cyfleon bywyd pobl ifanc a phlant bregus." Tlodi plant Dywedodd Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad: "Ar waethaf addewidion i haneru tlodi plant erbyn 2010, wedi 12 mlynedd o Lafur Cymru sydd â'r lefel uchaf o blant yn byw mewn tlodi difrifol yn y DU. "Mae Llafur wedi methu â diwygio Cymunedau'n Gyntaf i wella safonau byw i'r tlotaf mewn cymdeithas. "All cymunedau Cymru ddim fforddio pum mlynedd arall o Lafur." Lansiodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hymgyrch etholiadol yng Ngholeg Gwent ddydd Mawrth gydag addewid i greu swyddi drwy roi grantiau hyfforddi - gwerth £2,000 yr un - i fusnesau sy'n sefydlu yng Nghymru ac yn rhoi swyddi i bobl ifanc ddi-waith.
|