Bydd Kirsty Williams yn lawnsio ymgyrch ei phlaid yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.
|
Dyma ymgyrch etholiadol bwysica'r Cynulliad - dyna oedd neges arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wrth lansio ymgyrch y blaid. Mae'n dweud bod rhaid cael gwawr newydd o ddatganoli ar ôl etholiad Mai 5. Bai Llafur a Phlaid Cymru yw problemau Cymru yn ôl Kirsty Williams ac mae hi'n addo y bydd ei phlaid yn canolbwyntio ar hybu twf economaidd, creu swyddi a gwella sgiliau os bydd ei phlaid yn llwyddiannus yn etholiad Mai 5. Blaenoriaethu sgiliau Roedd ymgyrchwyr yng ngholeg Gwent fore Mawrth er mwyn pwysleisio ymrwymiad y blaid i hybu sgiliau. "Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid cryfhau datganoli yn y refferendwm ond maen nhw hefyd eisiau iddo weithio'n well," meddai Ms Williams.
 |
Addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol
Creu swyddi trwy roi grantiau hyfforddi - gwerth £2,000 yr un - i fusnesau newydd sy'n sefydlu yng Nghymru ac yn rhoi swyddi i bobl ifanc ddi-waith.
Rhoi mwy o arian i ysgolion trwy roi cyllid ychwanegol i ddisgyblion sydd ei angen fwyaf fel y gall ysgolion fuddsoddi mewn dosbarthiadau llai neu addysg un-i-un a thrwy hynny, daclo'r gwahaniaeth mewn gwariant rhwng Cymru a Lloegr.
Torri amser aros am driniaeth trwy gael gwared â gwastraff. Gwella gofal iechyd trwy symud gwariant aneffeithiol yn y gwasanaeth iechyd i'r rheng flaen.
Ailwampio radical o effeithlonrwydd ynni 12,000 yn fwy o dai trwy ddyblu'r cyllid fydd ar gael i daclo tlodi tanwydd.
Torri ar y cyfyngiadau sy'n atal cynghorau rhag mentro a gweithredu er lles y gymuned leol.
|
"Rhaid cael gwawr newydd o ddatganoli nawr. "Mae'r etholiad yma am y math o lywodraeth sydd ei angen ar Gymru." 'Dim mwy o esgusodion' Dywedodd bod Llafur a Phlaid Cymru wedi gadael y wlad gydag economi wan, ysgolion heb ddigon o gyllid a gwasanaeth iechyd sy'n ddrytach i'w redeg ond yn cyflawni llai. "Does dim rhyfedd bod Llafur a Phlaid mor awyddus i osgoi siarad am eu record. "Ac maen nhw wedi gwneud gwastraff a diffyg gallu yn grefft. "Dim mwy o esgusodion. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu bod Cymru'n haeddu gwell." Dywedodd bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol bolisïau positif i greu Cymru well. Un o gonglfeini'r ymgyrch fydd torri gwastraff yn y gwasanaeth iechyd a throsglwyddo'r cyllid i'r rheng flaen. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn addo cau'r bwlch rhwng cyllidebau ysgolion yn Lloegr o gymharu â Chymru ac yn addo creu swyddi trwy dalu cwmnïau i hyfforddi gweithwyr newydd ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith.
|