British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Ebrill 2011, 11:57 GMT 12:57 UK
Llafur: 'Mwyafrif yn bosib'

Carwyn Jones
Fe fyddai Llafur yn ffurfio llywodraeth, meddai, pe bai'n ennill 31 sedd allan o 60

Mae Carwyn Jones wedi dweud y gallai Llafur sicrhau mwyafrif yn Etholiadau'r Cynulliad ar Fai 5.

Ond yng nghynhadledd newyddion gynta'r blaid dywedodd nad oedd ei blaid yn cymryd dim yn ganiataol.

Fe fyddai Llafur yn ffurfio llywodraeth, meddai, pe bai'n ennill 31 sedd allan o 60.

"Mae'r ymateb mewn seddau fel Preseli Penfro, Gorllewin Clwyd a Llanelli wedi bod yn eitha cadarnhaol.

"Ond ry'n ni'n gorfod ymdrechu i ennill y seddau hyn."

Fe fydd ymgyrch Llafur yn cael ei lansio ddydd Iau ac yn cyhoeddi maniffesto ar Ebrill 14.

Clymblaid

Dim ond am gyfnod o ychydig dan ddwy flynedd wedi etholiad 2003 mae unrhyw blaid wedi ffurfio llywodraeth fwyafrif yn y Cynulliad ers ei sefydlu yn 1999.

Yn 2007 fe ffurfiodd Llafur glymblaid â Phlaid Cymru.

Mae addewidion Llafur yn cynnwys 500 o swyddogion cefnogi'r gymuned a sicrhau y gall cleifion weld meddygon teulu'n haws yn y nos ac ar y penwythnos.

Eisoes mae Plaid Cymru wedi dweud nad yw Llafur wedi ymladd digon i gael mwy o arian cyhoeddus i Gymru.

Dywedodd eu hymgeisydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nerys Evans: "Mae eu record yn dangos nad oes modd ymddiried yn Llafur wrth iddyn nhw redeg Cymru ..."

'Manylu'

Yn y cyfamser, lansiodd y Democratiaid Rhyddfrydol faniffesto sedd Maldwyn, yr un gafodd ei hennill yn Etholiadau'r Cynulliad ond ei cholli ganddynt yn yr Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd eu harweinydd, Kirsty Williams, fod Wyn Williams yn ymgeisydd lleol "o'r radd flaena".

"Fe fydd ein maniffesto llawn yn manylu ar ein cynlluniau ar gyfer Cymru.

"Ac mae ein cynigion am sicrhau na fydd y canolbarth ar ei hôl hi."

Wrth i'r Ceidwadwyr ymgyrchu roedd eu harweinydd, Nick Bourne, ac ymgeisydd Gorllewin Clwyd, Darren Millar, yn y Lleng Brydeinig ym Mae Colwyn yn tynnu sylw at gerdyn lluoedd arfog.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific