British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Ebrill 2011, 06:04 GMT 07:04 UK
Dechrau'r ymgyrchu ar gyfer etholiad y Cynulliad

Aled ap Dafydd
BBC Cymru

Papur pleidleisio
Mae'r ymgyrchu yn dechrau ar draws Cymru

Gyda'r trydydd cynulliad wedi dod i ben yr wythnos diwethaf yr etholiad ymhen pum wythnos sydd ar feddyliau'r gwleidyddion.

Er gwaetha'r proffwydi gwae mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi para'r tymor llawn.

Dim ond yn yr wythnosau diwethaf, gyda'r etholiad ar y gorwel, y bu angen yr hetiau caled ar aelodau'r glymblaid wrth i eiriau croes ddechrau tanio o'r naill gyfeiriad a'r llall.

Fel ym mhob etholiad, cyrhaeddiad y llywodraeth ddiweddara sy'n gosod y cyd-destun.

Ond tybed a fydd gan ddigwyddiadau yn San Steffan ddylanwad ar y canlyniad.

"Mae'n digwydd bob tro, bod y bleidlais yn yr etholiad yma yn adlewyrchu be sy'n digwydd yn San Steffan," meddai'r sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.

Newid byd

"O edrych ar yr arolygon barn, mae'r Blaid Lafur yn gwneud yn dda ... am fod Llafur yn wrthblaid yn San Steffan.

"Mae'r etholwyr am roi cic i'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Does 'na ddim ots be maen nhw wedi ei wneud ym Mae Caerdydd."

Y blaid fwyaf yn y trydydd cynulliad oedd Llafur, ond mae cymaint wedi ac yn mynd i newid iddyn nhw.

Diflannu wnaeth eu grym yn San Steffan, mae traean o'u haelodau yn ymddeol a dyma etholiad cynta eu harweinydd Carwyn Jones wedi cyfnod fel Prif Weinidog.

Blwch pleidleisio
Fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar Fai 5

Dadl ei ragflaenydd Rhodri Morgan ydi y byddai llywodraeth Lafur yn llywodraeth gryfach na chlymblaid.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n naturiol meddwl be mae pobl Cymru mo'yn," meddai.

"Os ydyn nhw mo'yn y llywodraeth gryfa i fargeinio efo'r glymblaid yn San Steffan mae angen meddwl o ddifri a fyddai cael un blaid neu ddim yr opsiwn gorau."

Ar ôl profi grym am bedair blynedd fydd Plaid Cymru ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau yn ôl eu harweinydd Ieuan Wyn Jones.

Mae ennill mwyafrif yn mynd i fod yn dalcen caled os nad amhosib gan adael cwestiynau di-ri i'w hateb.

Ond a fydd clymbleidio eto ac os fydd, gyda phwy, neu tybed a fyddai cyfnod fel gwrthblaid yn fwy buddiol?

'Blaenoriaeth'

"Dwi'n meddwl ein bod wedi profi i bobl Cymru bod Plaid Cymru yn bar saff o ddwylo mewn llywodraeth," meddai un o ymgeiswyr y blaid, Elin Jones.

"Fe wnaeth y blaid osod maniffesto ac yna gosod cytundeb efo'r blaid arall.

"Rydym wedi gweithredu ac wedi cyflawni pob addewid a roddwyd i bobl Cymru.

"Pan ac os daw trafodaeth ar ôl yr etholiad fe wnawn ni hynny fel 2007 gan roi blaenoriaeth pobl Cymru yn gyntaf."

Pan ddaeth David Cameron i Gaerdydd ym mis Mawrth go brin ei fod yn meddwl y byddai ymweliad yn braenaru'r tir ar gyfer buddugoliaeth ysgubol i'w blaid ym mis Mai.

'Penderfyniadau anodd'

Yn hinsawdd y toriadau i wariant cyhoeddus, osgoi troi'r bleidlais yn un o brotest yn erbyn penderfyniadau llywodraeth Llundain fydd yr her i ymgeiswyr fel Paul Davies.

"Dwi'n credu bod ysbryd y blaid yn uchel iawn a dwi'n edrych ymlaen at yr ymgyrch," meddai.

"Fe fydd yr etholiad yma yn un anodd iawn i ni gan ein bod wedi gwneud penderfyniadau anodd yn Brydeinig.

"Ond dwi'n meddwl bod y bobl dwi'n siarad efo nhw yn sylweddoli pam ein bod wedi gwneud y penderfyniadau anodd yma."

I raddau helaeth mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr un lle â'r Ceidwadwyr.

Eisoes daeth cyfaddefiad gan Nick Clegg nad ydi o wedi gwneud pethau yn rhwydd i'r arweinydd yng Nghymru Kirsty Williams.

Mae un o ymgeiswyr y blaid, Eleanor Burnham, yn cydnabod na fydd hi'n ymgyrch hawdd.

"Mae'n anodd mewn clymblaid yn San Steffan ond rydan ni wedi ceisio argyhoeddi Nick Clegg am y pethau rydan ni eisiau eu gwneud yma ym Mae Caerdydd.

"Mae 'na lot o ysbryd a lot o hwyl a hyder o fewn y blaid ac mae'n amser cyffrous iawn."

Ychwanegodd bod y penawdau yn aml yn rhai o Lundain ond eu bod fel plaid yn "gwneud eu gorau".

Pum wythnos sydd gan y pleidiau i argyhoeddi'r etholwyr.

Fe fydd un newid mawr i bob un sy'n cael eu hethol yn aelod - y gallu i ddeddfu heb ganiatâd San Steffan.

Mae'r pedwerydd cynulliad yn sicr yn mynd i fod yn wahanol - ond pwy fydd yn ei harwain, does wybod eto.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific