British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Ebrill 2011, 14:00 GMT 15:00 UK
Pafiliwn: Cyngor yn ystyried apelio yn erbyn gorchymyn

Pafiliwn Corwen
Roedd y gwaith o ddymchwel Pafiliwn Corwen i fod i ddechrau'n fuan

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried a fyddan nhw'n apelio yn erbyn gorchymyn llys sy'n atal dymchwel Pafiliwn Corwen am chwe wythnos.

Cafodd y gorchymyn dros dro ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Mae'n atal y cyngor rhag tynnu'r adeilad i lawr tan y bydd gwrandawiad wedi'i gynnal.

Yn gynharach yn yr wythnos, roedd y cyngor wedi dweud y byddai'r gwaith o ddymchwel y pafiliwn enwog yn dechrau "yn fuan".

Caewyd y Pafiliwn ym mis Mawrth 2010 oherwydd cyfres o bryderon am iechyd a diogelwch.

Heb newid meddwl

O ganlyniad penderfynwyd nad oedd hi'n economaidd ymarferol i'w drwsio.

Dywed Cyngor Sir Ddinbych eu bod nawr yn ystyried eu dewisiadau a sut y byddan nhw'n ymateb i'r gorchymyn.

Ond roedd y cyngor yn pwysleisio hefyd nad yw eu penderfyniad am y pafiliwn wedi newid.

Mae mudiad a sefydlwyd i achub y pafiliwn eisiau gweld y lle yn ailagor.

Dywedodd un aelod, Esmor Davies, eu bod wedi casglu rhwng £60,000 a £70,000 eisoes er mwyn gwneud gwaith angenrheidiol i wella'r adeilad.

Roedd y cyngor wedi dweud y byddai angen gwario rhwng £2 miliwn a £3 miliwn ar yr adeilad neu i gael adeilad arall yn lle'r un 99 oed.

Ond mae'r grŵp yn dweud eu bod wedi cael amcan bris o dan £500,000 yn ôl Mr Davies, sy'n adeiladwr.

Mae'r gorchymyn hefyd yn dweud y caiff yr awdurdod lleol wneud cais i'r llys ar unrhyw adeg i amrywio'r gorchymyn neu ei ddiddymu.



HEFYD
Pafiliwn: Cyngor yn ystyried apelio
02 Ebr 11 |  Newyddion
Dymchwel Pafiliwn Corwen
25 Maw 11 |  Newyddion
Holi ac ateb am ddymchwel pafiliwn
01 Tach 10 |  Newyddion
Cais i ddymchwel pafiliwn
23 Hyd 10 |  Newyddion
Pafiliwn: Dyfodol newydd?
03 Awst 10 |  Newyddion
Pafiliwn: 200 mewn cyfarfod
08 Ebr 10 |  Newyddion
Pafiliwn: 'Y ffordd ymlaen'
05 Maw 10 |  Newyddion
Cau Pafiliwn Corwen
03 Maw 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific