Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 2016 yn hytrach na 2022.
Bydd y broses o ddadgomisiynu gorsaf niwclear yn cael ei gyflymu. Mae'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) wedi cymeradwyo cynllun i gwblhau'r rhan bresennol o ddadgomisiynu pwerdy Trawsfynydd erbyn 2016 yn hytrach na 2022. Mae disgwyl y bydd hyn yn arwain at rwng 150 a 200 o weithwyr ychwanegol yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith, gan gynyddu'r gweithlu i tua 800. Cafodd y syniad ei grybwyll ym mis Gorffennaf y llynedd, ac fe gafodd ei gynnwys yng nghynllun busnes yr NDA ar gyfer 2011-14. Dywed y sefydliad fod hwn yn cynrychioli "buddsoddiad cryf a pharhaus yn y rhaglen i lanhau'r diwydiant niwclear yn y DU". Ail orsaf? Mae'r adroddiad yn cadarnhau y bydd gorsaf Wylfa ar Ynys Môn yn parhau i gynhyrchu trydan yn 2011-12 cyn y bydd paratoadau ar gyfer ei dadgomisiynu yn cael eu gwneud. Ond bydd adolygiad o'r cyfle hefyd i bobl gyda sgiliau symud rhwng Trawsfynydd, Wylfa ac ail orsaf posib allai gael ei hadeiladu ar Ynys Môn. Dywed yr adroddiad: "Mae'r cynllun busnes yn cefnogi symud ymlaen gydag optimeiddio'r dulliau o ddelio gyda gorsafoedd Magnox, gan nodi Trawsfynydd a Bradwell fel safleoedd lle gallwn gyflymu dadgomisiynu. "Bydd mwy o waith yn cael ei wneud i dynnu tanwydd niwclear yn Chapelcross, Sizewell A a Dungeness A, gyda chynhyrchu trydan i barhau yn Wylfa ac Oldbury."
|