Mae'r cynllun amddiffyn yn costio £12m
|
Mae disgwyl i'r gwaith o ddadlwytho dros 40,000 tunnell o greigiau o Norwy ar draeth yn Aberystwyth ddechrau yn ddiweddarach. Mae'r gwaith yn rhan o gynllun £12 miliwn i amddiffyn yr arfordir ym mhentref Borth a lleihau'r perygl o lifogydd. Bydd y creigiau'n cael eu defnyddio i adeiladu creigres sy'n mesur 140 metr wrth 40 metr fydd hefyd yn ceisio denu syrffwyr i'r ardal. Bydd ysgraff yn dod â'r creigiau i'r lan o longau sydd wedi angori ger arfordir Ceredigion, ac mae disgwyl i'r gwaith gymryd rhai wythnosau. 50 mlynedd Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Bydd y creigiau'n cael eu defnyddio i adeiladu creigres fel rhan o gynllun amddiffyn yr arfordir rhwng Borth ac Ynyslas a fydd yn amddiffyn y pentref am yr 50 mlynedd nesaf. "Bydd y creigiau'n cael eu cludo ar yr ysgraff ddwywaith y dydd pan mae'r llanw'n uchel, ond mae hynny'n dibynnu ar y tywydd wrth gwrs." Ychwanegodd y cyngor bod cludo'r creigiau yn y dull yma yn golygu peidio defnyddio lorïau trwm a swnllyd. Mae'r cynllun arfordirol yn cael ei reoli gan Gyngor Ceredigion gyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
|