British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Ebrill 2011, 15:46 GMT 16:46 UK
Twyll: Tri o flaen eu gwell

Miriam Beard
Miriam Beard oedd cydlynydd cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc

Bydd cydlynydd cynllun a sefydlwyd i adfywio un o stadau tai mwyaf difreintiedig Cymru yn sefyll ei phrawf am dwyll ym mis Hydref.

Ymddangosodd Miriam Beard, 55 oed, oedd yn gyfrifol am gynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc yn Wrecsam, gerbron llys ddydd Gwener.

Mae'n wynebu cyhuddiadau o gadw dros £50,000 o arian y cynllun i'w hun neu ei mab.

Mae ei mab, Darrell Kelly, a'i gŵr James Beard, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dwyll ac o ddwyn.

Gohirio

Ymddangosodd y tri gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, ond cafodd yr achos ei ohirio heb i'r tri bledio.

Dywedodd y barnwr Duncan Bould ei fod wedi gwneud hynny'n anfodlon, ac y byddai'r llys yn disgwyl iddyn nhw bledio y tro nesaf.

Dywedodd wrth Mrs Beard y gallai fod angen ymchwilio i fater meddygol yn ei hachos hi.

"Os fydd tystiolaeth feddygol yn cael ei ddefnyddio a fydd yn effeithio ar eich gallu i chwarae rhan yn yr achos, neu a allai fod wedi effeithio ar eich rhan yn y troseddau, yna rhaid datgelu hynny," meddai.

Cyhuddiadau

Mae Mrs Beard yn wynebu 13 o gyhuddiadau o dwyll ac o ddwyn.

Hi oedd cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc, Wrecsam - cynllun oedd yn derbyn £750,000 y flwyddyn gan Lywodraeth y Cynulliad.

Cafodd ei chyhuddo o gamddefnyddio'i swydd ym mis Ebrill 2008 - swydd lle oedd disgwyl iddi ofalu am gyllid y cynllun - gyda'r bwriad o wneud elw o £11,200 i'w hun.

Honnir hefyd iddi dwyllo er mwyn cael cyfanswm o £16,324 i'w hunan rhwng Tachwedd 2008 a Mehefin 2009, ac o dwyllo er mwyn cael cyfanswm o £25,600 i'w mab Darrell Kelly rhwng Chwefror 2007 a Rhagfyr 2009.

Cafodd ei chyhuddo o ddwyn peiriant torri gwair gwerth £1,500 yr oedd y cynllun yn berchen arno, ac o dwyllo er mwyn elw ariannol drwy roi gwybodaeth ffug - manylion addysgol a dyddiad geni ffug wrth ymgeisio am y swydd.

Mae ei gŵr James yn wynebu chwe chyhuddiad o dwyll a dau o ddwyn, ac mae ei mab yn wynebu tri chyhuddiad o 'lanhau' arian, un o dwyll ac un o gaffael eiddo oedd wedi ei ddwyn.

Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth.



HEFYD
Twyll: Cydlynydd gerbron llys
05 Ion 11 |  Newyddion
Cynllun adfywio: Dau yn y llys
31 Rhag 10 |  Newyddion
Cyhuddo menyw o dwyll a lladrata
22 Rhag 10 |  Newyddion
Diswyddo wedi ymchwiliad mewnol
14 Rhag 10 |  Newyddion
Partneriaeth: Galw am ymchwiliad
18 Maw 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific