British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Ebrill 2011, 14:34 GMT 15:34 UK
David Cameron yn ymweld Chymru cyn yr etholiad

David Cameron
David Cameron yn Abertawe yn edrych ymlaen at etholaid y cynulliad ar Fai 5

Mae'r Prif Weinidog wedi annog aelodau o'i blaid i fynd allan ac ymgyrchu i geisio ennill etholiad y cynulliad ar Fai 5.

Roedd David Cameron yn annerch aelodau o'r Ceidwadwyr yn Abertawe ddydd Gwener.

Fo ydi'r arweinydd cyntaf o San Steffan i ymweld â Chymru ar gyfer yr etholiad.

Ychwanegodd bod y Ceidwadwyr yn llwyddo i wasanaethu Cymru.

Eglurodd bod toriadau gwariant cyhoeddus yn llai yng Nghymru nag yn Lloegr.

Ac fe wnaeth ganmol y penderfyniad i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd gan ddweud bod gweinidogion yn edrych ar y posibilrwydd o ehangu'r gwasanaeth i Abertawe.

Llwyddiant

Dywedodd Mr Cameron bod gan y Ceidwadwyr "faniffesto gwych" ar gyfer yr etholiad.

"Mae cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer yr economi yn gywir ac rydym yn cadw ato," meddai.

Eglurodd bod y llywodraeth yn cwtogi treth gorfforaethol, wedi cwtogi 1c ar danwydd ac wedi dileu'r drefn codi pris tanwydd yn awtomatig.

"Dyma be mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud mewn llywodraeth," meddai Mr Cameron yn Guildhall Abertawe.

"Rydym yn gwrando ar be mae'r bobl eisiau, yn torchi'n llewys ac yn gweithio er eich budd.

"Dyma'n union sydd raid i ni ddweud wrth bobl bob dydd cyn yr etholiad ym mis Mai."

Dros yr 11 mis diwethaf ers i'r Ceidwadwyr fod mewn grym yn San Steffan, dywedodd eu bod wedi llwyddo i wasanaethu pobl Cymru ac y byddan nhw'n gwneud hynny ymhellach petai nhw'n cael eu hethol i fod yn llywodraeth yng Nghaerdydd am y pedair blynedd nesaf.

Eglurodd hefyd bod y Ceidwadwyr yn addo cynyddu'r gyllideb iechyd i gyd-fynd â chwyddiant.

Beirniadu

Mae'n debyg mai dyma fydd un o brif frwydrau'r etholiad gyda'r pleidiau eraill yn dweud y bydd rhaid i adrannau eraill wynebu toriadau sylweddol er mwyn gwario mwy ar iechyd.

Ond ychwanegodd Mr Cameron bod hi'n bwysig bod ei blaid yn gadael i bobl wybod bod Llafur am wneud toriadau o £1 biliwn yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

"Mae'r blaid yn llywodraethu yn dda yn San Steffan ac fe fyddai hefyd yng Nghaerdydd," meddai.

"Mae 'na ddewis arall i Lafur."

Mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i beidio trydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe.

"Nawr, fe welwn ni bod y llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad i beidio gwneud hyn ac yna wedi casglu achos busnes at ei gilydd i gefnogi'r penderfyniad," meddai Owen Smith AS.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru, Dai Lloyd, na wnaeth ymweliad Mr Cameron gynnig datblygiadau newydd ac felly holodd pam ei fod wedi dod i Gymru.

"Mae'r angen i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, uwchlaw trafodaeth," meddai.

Dywedodd Peter Black ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngorllewin De Cymru, bod y blaid am warchod biwrocratiaeth a rheolwyr y gwasanaeth iechyd.

"Dydyn nhw ddim yn sylweddoli y byddai'r gwasanaeth yng Nghymru yn waeth nag y mae wedi ei adael gan Llafur a Phlaid Cymru."

'Annheg'

Yn ystod yr araith fe wnaeth Mr Cameron annog ei blaid i bleidleisio yn erbyn y drefn etholiadol newydd sy'n cael ei gynnig.

Fe fydd refferendwm ar hyn yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod a'r etholiad ar fai 5.

Roedd cynnal y refferendwm yn rhan o'r cytundeb clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae'n annheg bod ymgeiswyr sy'n ail neu'n drydydd yn ennill," meddai.

Ond mae'r dirprwy brif weinidog, Nick Clegg, ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, yn cefnogi newid y drefn.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


HEFYD
Dur: Cameron yn wfftio pryderon
30 Maw 11 |  Newyddion
Ceidwadwyr yn lansio ymgyrch
30 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific