British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Ebrill 2011, 17:06 GMT 18:06 UK
Cymeradwyo cynllun ynni'r llanw yn Sir Benfro

Llun arlunydd o'r uned DeltaStream
Mae'r cynllun wedi ei leoli yn Swnt Dewi ger Tŷddewi

Mae prosiect ynni'r llanw a fydd yn darparu trydan ar gyfer 1,000 o gartrefi yn Sir Benfro wedi ei gymeradwyo am flwyddyn o beilot.

Mae'r cynllun 1.2MW yn Swnt Dewi ger Tŷddewi yn cynnwys tri generadur wedi eu gosod ar ffrâm drionglog.

Cefnogir y cynllun, a ddyfeisiwyd gan beiriannwr o Sir Benfro Richard Ayre, gan dros £500,000 o arian yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned yn Sir Benfro a chefnogaeth pawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghoro
Martin Murphy

Mae'r ddyfais 'DeltaStream' wedi derbyn cymeradwyaeth gan Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y DU.

Mae cwmni Tidal Energy, a leolir yng Nghaerdydd, yn honni bod ei generadur llanw ar flaen y gad o ran technoleg werdd.

Hwb

Mae gan bob un o'r tri generadur, rotor 15m o hyd sydd yn gallu troi a chreu trydan yn ystod cyfnodau llanw a thrai.

Dywedodd y cwmni y byddai'r ddyfais yn hawdd i'w chynhyrchu ac na fyddai angen torri gwely'r môr â dril i'w sefydlu.

Bydd y tyrbinau yn cael eu gosod yn Sir Benfro mewn ymdrech i greu swyddi a rhoi hwb i'r economi lleol.

Mae cais cynllunio ar gyfer gwaith ar y tir wedi cael ei chymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Martin Murphy, rheolwr gyfarwyddwr Tidal Energy: "Hwn yw'r cynllun ffrwd llanw cyntaf i gael ei gymeradwyo yn nyfroedd Cymru ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad o ran diwydiant llanw yng Nghymru.

"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned yn Sir Benfro a chefnogaeth pawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghorol."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific