British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Ebrill 2011, 08:27 GMT 09:27 UK
Marw Brynle Williams

Brynle Williams
Daeth Brynle Williams i amlygrwydd gyntaf yn ystod protestiadau tanwydd 2000.

Bu farw'r Aelod Ceidwadol yn y Cynulliad Brynle Williams yn 62 oed.

Roedd wedi bod yn wael ers tro.

Mr Williams oedd llefarydd yr wrthblaid ar Faterion Gwledig ac, fel ffermwr, ei brif ddiddordebau oedd amaethyddiaeth ac economi cefn gwlad.

Daeth i amlygrwydd yn 2000 fel arweinydd y gwrthdystiadau yn erbyn pris tanwydd.

Dair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn aelod dros ogledd Cymru.

Yn ystod ei gyfnod yn y senedd ym Mae Caerdydd bu'n flaenllaw fel llefarydd ei blaid ar faterion amaethyddol a chefn gwlad, ond roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn pobl ifanc ac roedd yn gefnogwr brwd i'r iaith Gymraeg.

Yn ogystal ag amaethu roedd hefyd bridio merlod a chobiau Cymreig. Cafodd ei wneud yn aelod oes o'r Gymdeithas Cobiau a bu'n feirniad rhyngwladol uchel ei barch.

Mae'n gadael gweddw a dau o blant.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific