British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Mawrth 2011, 20:39 GMT 21:39 UK
Tn: Heddlu am holi dyn arall

Stanislaw Gliszczynski
Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda Mr Gliszczynski

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi dyn y maen nhw am ei holi mewn cysylltiad â llofruddiaeth yng Nghasnewydd.

Bu farw Ramunas Raulanitis, 34, yn dilyn tân o flaen gwesty'r Gateway Express ar Ffordd Cas Gwent ar Fawrth 9.

Mae'r heddlu am siarad gyda Stanislaw Gliszczynski, 30 oed.

Mae tri dyn 27, 29 a 21 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Mr Raulanitis. Dywedodd yr heddlu fod rhywun wedi ymosod arno ac yna ei roi ar dân.

Bu farw o losgiadau difrifol yn Ysbyty Treforys, Abertawe ar Fawrth 12.

Cafodd Mr Gliszczynski ei ddisgrifio fel dyn gyda gwallt hir brown a llygaid brown.

Mae ganddo datŵ o gynllun unigryw ar ei fraich chwith ac un Celtaidd ar ei goes chwith.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano gysylltu gyda Heddlu Gwent drwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.



HEFYD
Marwolaeth: cyhuddo dau arall o ladd
25 Maw 11 |  Newyddion
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar l tn
15 Maw 11 |  Newyddion
Tn: Arestio dyn
11 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific