British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Mawrth 2011, 16:07 GMT 17:07 UK
Salwch: Gwahardd ymwelwyr

Norofirws
Mae Norofirws yn achosi salwch a dolur rhydd

Mae ymwelwyr wedi eu gwahardd rhag mynd i wardiau pedwar ysbyty ac uned salwch meddyliol oherwydd salwch stumog Norofirws.

Dywedodd yr awdurdodau fod hyn yn effeithio ar wardiau yn Ysbyty Gwynedd, Uned Hergest, Ysbyty Llandudno, Ysbyty Wrecsam Maelor ac Ysbyty'r Wyddgrug.

Yr unig eithriadau yw teuluoedd cleifion sy'n ddifrifol iawn neu'n derfynol wael.

Dyma'r manylion:

Ysbyty Gwynedd: Wardiau Glyder, Moelwyn, Aran a Glaslyn; Uned Hergest: Wardiau Cynan ac Aneuryn;

Ysbyty Llandudno: Wardiau Aberconwy, Morfa a Llewelyn;

Ysbyty Wrecsam Maelor: Wardiau Evington, Erddig, Bedwen, Onnen, Clust, Trwyn a Gwddf a Morris;

Ysbyty'r Wyddgrug: Ward Delyn.

Y prif symptomau yw teimlo'n gyfoglyd yn sydyn, poen stumog ac yna chwydu hyrddiol drwg a neu ddolur rhydd.

Efallai hefyd y bydd ychydig o wres, cur pen, cramp yn y stumog a breichiau a choesau poenus.

Fel arfer, bydd y symptomau'n dechrau rhwng 12- 48 awr wedi i'r unigolyn ddal yr haint.

Mae'r rhan fwyaf o bobl iach yn gwella rhwng un a thri diwrnod ond gall plant ifanc a phobl hŷn ddioddef cymhlethdodau a'r un mwyaf aml ydy diffyg hylif.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific