British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Mawrth 2011, 13:00 GMT 14:00 UK
Achos bwyell: Ymddiheuriad swyddogol

Daniel Morgan
Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan ym maes parcio tafarn yn 1987

Mae Comisiynydd Dros Dro Heddlu Llundain wedi ymddiheuro'n swyddogol i deulu ditectif preifat o Gymru am "ymchwiliad llygredig" i'w farwolaeth.

Cafodd Daniel Morgan, 37 oed o Sir Fynwy, ei lofruddio yn ne-ddwyrain Llundain yn 1987 a'i ganfod mewn maes parcio tafarn yn Sydenham â bwyell yn ei ben.

Chafwyd neb yn euog.

Mewn llythyr ddydd Iau fe gyfeiriodd Tim Godwin at "fethiannau" plismyn.

Daeth yr achos llys diweddara i ben yn sydyn yn gynharach yn y mis.

Mae teulu Mr Morgan wedi galw am ymchwiliad barnwrol "ar fyrder".

'Llygredd'

"Am ugain mlynedd bu protestiadau cyhoeddus, cyfarfodydd gydag uwchswyddogion heddlu, lobïo gwleidyddion ac apeliadau ar y cyfryngau ...

"Ond rydym wedi cael ein bwlio, ein hisraddio a'n siomi dro ar ôl tro.

"Mae hon wedi bod yn hunlle, dim byd llai."

Yn ei lythyr dywedodd Mr Godwin ei fod yn wir ddrwg ganddo nad oedd y llofrudd wedi ei erlyn.

"Mae'r heddlu yn derbyn bod llygredd yn ystod yr ymchwiliad yn ffactor allweddol.

"Fel y gwyddoch chi, mae llygredd yn gallu bod ar sawl ffurf ..."

Roedd y teulu'n haeddu ymddiheuriad, meddai, nid yn unig oherwydd y methiant diweddara ond hefyd gyfres o fethiannau dros y blynyddoedd.

"Dwi'n ymddiheuro hefyd am y blynyddoedd o bryder am nad ydyn ni wedi erlyn y troseddwr," meddai.

£30m

"Dwi'n derbyn na all yr ymddiheuriad leddfu eich colled, rhwystredigaeth, dicter na phryder dros y blynyddoedd.

"Mae'r heddlu yn gorff gwahanol iawn erbyn hyn i'r hyn yr oedd yn 1987."

Er gwaetha pum ymchwiliad heddlu a thair blynedd o wrandawiadau cyfreithiol ar gost o £30 miliwn, chafwyd neb yn euog.

Cafodd pump o bobl eu harestio yn 2008 cyn i ddau gael eu rhyddhau, gan gynnwys cyn-dditectif oedd wedi ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn gynharach yn y mis methodd yr achos llys yn erbyn y tri arall - cyn bartner busnes Mr Morgan, Jonathan Rees, a'r brodyr Garry a Glenn Vian.

Mae'r achos yn drawiadol, un o'r achosion o lofruddiaeth - er gwaetha ymchwiliad hir - sydd ddim wedi ei ddatrys ym Mhrydain.



HEFYD
Achos lladd bwyell: Mechnaeth
16 Meh 09 |  Newyddion
Achos lladd bwyell: Tystiolaeth
17 Meh 07 |  Newyddion
Corff: Arestio cyn blismon
18 Ion 03 |  Newyddion
Llofrudd honedig wedi ei ryddhau
04 Hyd 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific