British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Mawrth 2011, 11:54 GMT 12:54 UK
Cydlynydd i 'daclo masnachu i bwrpas rhyw'

Robert Tooby
Mae Robert Tooby am asesu maint y broblem yng Nghymru

Mae Cydlynydd yn erbyn Masnachu Pobl i Bwrpas Rhyw, yr un cyntaf yng Nghymru, wedi dechrau ei waith.

Dywedodd Robert Tooby mai ei dasg gyntaf fyddai asesu maint y broblem.

Yn fyd-eang, meddai, y gost oedd £32 biliwn ond doedd dim manylion am yr hyn oedd yn digwydd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Tooby, cyn bennaeth gyda'r heddlu, fod "ymosodiadau dychrynllyd" a'r troseddu'n fath o gaethwasiaeth.

Llywodraeth y Cynulliad sy'n ariannu'r swydd.

Maint y broblem

Maen nhw wedi dweud mai masnachu pobl i bwrpas rhyw yw'r drydedd farchnad fwya proffidiol yn y DU i droseddwyr ar ôl cyffuriau ac arfau.

Dywedodd yr heddlu fod o leiaf 2,600 o ferched yn gweithio fel puteiniaid yng Nghymru a Lloegr ac wedi cyrraedd o wledydd tramor.

Yng Nghymru, meddai Mr Tooby, roedd y cyfanswm yn llawer llai, o bosib 30 o blant a 30 o oedolion.

"O Wynedd i Sir Benfro ac i'n dinasoedd a'r trefi mawr, Wrecsam, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, mae'n amlwg bod 'na dystiolaeth o fasnachu pobl i bwrpas rhyw."

Rhan o'i swyddogaeth, meddai, fyddai helpu cyrff proffesiynol fel yr heddlu, cynghorau, gwasanaethau iechyd a mudiadau gwirfoddol i adnabod achosion ac ymyrryd.

Pum mlynedd

Am bum mlynedd roedd Mr Tooby yn brif uwch-arolygydd yng Nghaerdydd.

Bu hefyd yn gweithio gyda gwahanol asiantaethau yn y DU a thramor.

Y llynedd dywedodd Pennaeth Ymddiriedolaeth Terene Higgins Cymru, Pete Clark, y dylai'r arian gael ei wario ar helpu gweithwyr rhyw.

"Dwi'n meddwl bod lot o fudiadau a chyrff cyhoeddus, yr heddlu a gwasanaethau iechyd wedi bod yn gwneud lllawer o waith," meddai Mr Tooby.

"Ond mae angen cydlynu a chael ymateb ar draws Cymru.

"Mae'n bwysig deall y broblem, ymateb i'r dioddefwyr a deall eu hanghenion."



HEFYD
Beirniadau swyddog atal masnachu rhyw
25 Medi 10 |  Newyddion
Swydd newydd i atal masnachu pobl
09 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific