Bydd dros £4 miliwn yn cael ei wario i wellla'r orsaf
|
Mae Gorsaf Drenau Bangor yn cael ei throi'n ganolfan drafnidiaeth integredig ar gost o fwy na £4 miliwn. Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, fydd yn ymweld â'r orsaf ddydd Iau i nodi dechrau'r gwaith. Network Rail, chwe awdurdod lleol y gogledd a Llywodraeth y Cynulliad sy'n gweithio. Mae'r gwelliannau'n cynnwys maes parcio gwerth £1.7 miliwn ar gyfer 140 o leoedd parcio "talu ac arddangos" yn ogystal â ramp a fydd yn galluogi teithwyr i gael mynediad uniongyrchol i'r orsaf o'r maes parcio. Yn ogystal â'r cynllun i adeiladu'r maes parcio bydd gwaith yn cael ei wneud gan Network Rail sy'n werth £2.5 miliwn i adnewyddu'r bont droed orsaf, y platfformau a chanopïau'r orsaf hefyd. £40 miliwn "O ganlyniad i gydweithio agos rhyngom ni, Network Rail a Chyngor Gwynedd, rydym wedi llwyddo i greu datblygiad fydd nid yn unig yn creu manteision i Orsaf Bangor a'r rhanbarth ond hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni i wella trafnidiaeth gynaliadwy yn y gogledd," meddai Mr Jones. "Mae'r datblygiad newydd hwn yn ategu ein Rhaglen Gwella Gorsafoedd sy'n werth £40 miliwn. "Diben y rhaglen yw gwella gorsafoedd ar hyd a lled y wlad trwy wella mynediad i orsafoedd, adeiladu cyfleusterau aros newydd, sefydlu cynlluniau parcio a theithio, gwella'r diogelwch yn y gorsafoedd yn ogystal â'r wybodaeth sydd ar gael i gwsmeriaid ar y platfformau." Dywedodd Mike Gallop o Network Rail fod Gorsaf Bangor yn gwasanaethu dros 500,000 o deithwyr bob blwyddyn. 'Cynaliadwy' "Mae'r nifer hwn yn raddol gynyddu bob blwyddyn ... "Ac mae Cymru yn ddibynnol ar y rheilffyrdd felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu cyfleusterau sy'n gwneud y rheilffyrdd yn haws i'w defnyddio, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb. "Mae adeiladu meysydd parcio newydd neu estyn y cyfleusterau sydd ar gael eisoes yn arwydd o drafnidiaeth wirioneddol integredig. "Bydd hefyd yn ysgogi twf parhaus ac yn annog trafnidiaeth gynaliadwy." Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio dros yr Amgylchedd i Gyngor Gwynedd, eu bod yn hyderus y byddai gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus ym Mangor yn annog nifer o bobl i adael eu ceir adref a defnyddio ffyrdd eraill o deithio. "Fe fydd yn arwain at lai o dagfeydd traffig ..."
|