British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mawrth 2011, 16:16 GMT 17:16 UK
'Trosedd siomedig a chywilyddus'

Meg Burgess
Bu farw Meg Burgess yng Ngorffennaf 2008

Mae rhieni merch dair oed fu farw pan ddisgynnodd wal arni wedi beirniadu lladron wnaeth ddwyn mainc goffa iddi.

Bu farw Meg Burgess ym Mhrestatyn yn 2008 ac fe grëwyd gardd goffa yn y feithrinfa lle oedd hi'n mynd.

Dydd Sadwrn fe welwyd criw o bobl ifanc ar gamera cylch cyfyng yn tynnu'r fainc o'i sail concrid.

Mae ei rhieni wedi dweud bod hon yn "drosedd siomedig a chywilyddus".

Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n ymchwilio.

Dywedodd Peter a Lindsay Burgess: "Gallwn ond gobeithio y bydd y fainc yn cael ei dychwelyd ond ar ôl gweld y lluniau camera cylch cyfyng mae'n ymddangos bod hon yn weithred faleisus oedd yn targedu llecyn arbennig lle mae plant yn chwarae.

"Doedd dim gwerth ariannol i'r fainc."

'Lle arbennig'

Lladdwyd Meg pan ddisgynnodd wal ar ei phen yn Ffordd Penrhwylfa, Prestatyn, yng Ngorffennaf 2008.

Roedd hi gyda'i mam a'i brawd bach ar y pryd.

Fe greodd ffrindiau, teulu a staff meithrinfa Tiny Tots ardd coffa, gan gynnwys y fainc â phlac bach arni.

Dywedodd aelod o staff y feithrinfa: "Mae'r staff, plant a rhieni yn drist o glywed y newyddion ... gan fod yr ardd yn lle arbennig i bawb fynd iddi.

"Mae arwyddion bach o barch fel yr ardd yn cynnig mymryn o gysur, ac yn symbol o gariad pobl tuag at Meg."

Mae teulu Meg yn dal i aros am ganlyniad ymchwiliad i ganfod pam y disgynnodd y wal ac fe fydd hwnnw'n penderfynu a fydd cyhuddiadau neu beidio.

Ychwanegodd rhieni Meg: "Rydyn ni'n apelio at unrhyw un â gwybodaeth i'n helpu ni i gael y fainc yn ôl."



HEFYD
Beirniadu oedi cyn cynnal cwest
22 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth: Ymchwiliad yn parhau
28 Gorff 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific