British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mawrth 2011, 18:03 GMT 19:03 UK
Wyth addewid gan y Ceidwadwyr ar drothwy etholiad

Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r blaid am weld newid rheolaeth ym Mae Caerdydd

Wyth prif addewid oedd gan y Ceidwadwyr Cymreig wrth lansio'u hymgyrch ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai.

Fe wnaeth y blaid lansio'u hymgyrch ar gyfer yr etholiadau nos Fercher ar ôl i gyfnod y trydydd Cynulliad ddod i ben.

Cyflwynwyd 'Cerdyn Llais Newydd' gydag addewidion i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd, diddymu trethi i fusnesau bach a chyflwyno cerdyn arbennig i'r lluoedd arfog i sicrhau buddion iddyn nhw fel teithio ar y bws am ddim a gofal arbennig gan y gwasanaeth iechyd gwladol.

Ond cynnig dewis amgen i Lafur yw'r brif neges.

YR WYTH ADDEWID
Gwarchod y gwasanaeth iechyd am y pedair blynedd nesaf
Buddsoddi mewn addysg i roi mwy o rym i athrawon, rhieni a llywodraethwyr
Diddymu trethi busnes i fusnesau bach
Cyflwyno cerdyn buddion y lluoedd arfog
Diddymu trethi busnes i fusnesau bach
Creu 'llain las' i atal datblygu ar dir sydd mewn perygl o lifogydd
Dileu tlodi plant erbyn 2020
Gwarchod pasys bws am ddim a phresgripsiynau am ddim i'r henoed
Hybu'r Gymraeg gyda marc siarter i fusnesau sy'n hyrwyddo defnydd ohoni

Wrth lansio'u hymgyrch, roedd y Ceidwadwyr yn gryf eu beirniadaeth o gyfnod Llafur mewn grym.

Maen nhw'n mynnu mai'r etholiad yw'r cyfle i gael llywodraeth o liw gwahanol ym Mae Caerdydd.

Llafur sydd wedi arwain llywodraeth yn y Cynulliad ers y Cynulliad cyntaf yn 1999.

Daeth y Ceidwadwyr yn agos at ffurfio llywodraeth glymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru dan arweiniad Plaid yn 2007 ond yn y diwedd ffurfiodd Plaid Cymru glymblaid gyda Llafur.

Galw am newid

"Mae'r etholiad hwn yn drobwynt oherwydd mae'n bwysicach nac erioed ein bod ni'n cael gwared â'r Blaid Lafur o Gymru a rhoi diwedd ar eu gwaddol o fethiant," meddai Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

"Mae Llafur wedi gadael Cymru lawr.

"Fe addawon nhw gau'r bwlch rhwng economi Cymru ac economi Prydain - mae wedi ehangu.

"Fe addawon nhw ddileu tlodi plant -mae wedi cynyddu."

Ychwanegodd eu bod wedi gosod targedau i adeiladu ysgolion, amseroedd ymateb ambiwlans ac allyriadau carbon - a'u methu nhw i gyd.

"Dywedodd Llafur y bydden nhw'n gwarchod Cymru oddi wrth doriadau -ac eto maen nhw'n torri biliwn o bunnau o'r gwasanaeth iechyd," meddai.

"Diolch i Lafur, Cymru yw'r rhan wannaf o'r Deyrnas Gyfunol, gyda'r lefel uchaf o ddiweithdra, y lefel ucha' o dlodi plant a'r safonau isaf yn ein hysgolion.

"Dydy Llafur ddim yn haeddu pum mlynedd arall.

"Mae'n hen bryd i ni gael newid," ychwanegodd.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific