British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mawrth 2011, 08:07 GMT 09:07 UK
Rhan arall o lwybr yr arfordir yn agor yn nhref Dylan

Llwybr Arfordir Ceredigion
Y nod yw agor Llwybr Arfordir Cymru gyfan erbyn gwanwyn 2012

Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru wedi agor y rhan ddiweddaraf o Lwybr Arfordir Cymru.

Mae'r rhan 5 milltir newydd yn Nhalacharn yn cysylltu llwybrau presennol gan wella mynediad i ddefnyddwyr i bentref glan môr ddaeth yn enwog fel cartref Dylan Thomas am 16 mlynedd.

Yn ei farddoniaeth, mae Thomas yn disgrifio safleoedd lleol a'r olygfa ar draws aber Afon Taf a welir o'r llwybr newydd.

Nod Llywodraeth y Cynulliad yw creu llwybr di-dor ar hyd yr 850 milltir o arfordir Cymru erbyn mis Mai 2012.

'Hwb gwirioneddol'

Wrth agor y llwybr newydd, dywedodd Jane Davidson: "Yr hyn sydd wedi creu argraff arna' i yw menter y bobl leol yma yn Nhalacharn i gofleidio manteision mynediad i'r arfordir.

"Rwy'n hyderus y bydd y Llwybr Arfordir yn denu mwy o ymwelwyr ac yn rhoi hwb gwirioneddol i'r economi leol wrth wneud hynny."

Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield sydd â chyfrifoldeb am hamdden ar fwrdd Cyngor Sir Gâr, eu bod yn falch iawn o weld cwblhau eu rhan nhw o'r llwybr.

"Bydd yn denu twristiaid ac mae medru cysylltu Abertawe yn y dwyrain drwy Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro a gweddill Cymru yn bwysig.

"Mae'r cytundebau yn eu lle gennym ar gyfer 94% o'r sir, ac mae trafodaethau'n digwydd am y gweddill. Un ffordd neu'r llall fe ddylai ein llwybr ni fod yn barod erbyn y dyddiad yng ngwanwyn 2012."

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn buddsoddi yn Rhaglen Gwella Mynediad i'r Arfordir.

Cafodd y cynllun £2 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad yn ogystal â £3.9 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i gefnogi'r cynllun.



HEFYD
£9m i agor llwybrau
10 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific