British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mawrth 2011, 06:28 GMT 07:28 UK
Gwasanaethau epilepsi dan fygythiad yng Nghymru

Sgan ymennydd
Dim ond saith o fyrddau iechyd sydd wedi gweithredu'r cyfarwyddyd cenedlaethol

Mae gwasanaethau i ddioddefwyr epilepsi yng Nghymru dan fygythiad ym marn un elusen yn y maes.

Dywed Epilepsi Cymru mai methiant y Byrddau Iechyd Lleol i weithredu Cyfarwyddyd Epilepsi Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am y bygythiad.

Mae'r elusen yn galw ar unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan epilepsi i ymuno gyda nhw i lobio Aelodau Cynulliad yn y Senedd ddydd Mercher.

Mae'r digwyddiad hwnnw'n cael ei drefnu gan Fforwm Epilepsi Cymru Gyfan (AWEF) sy'n cael ei gadeirio gan Epilepsi Cymru ac yn cynnwys aelodau o ddau gorff arall - Epilepsy Action Cymru ac Epilepsy Bereaved.

'Siomedig'

Dywedodd swyddog datblygu Epilepsi Cymru, Fiona Kettell, bod Epilepsi Cymru yn gyfrannwr pwysig i ddatblygu'r Cyfarwyddyd Epilepsi a'r lansiad ddilynodd.

"Rydym yn siomedig nad yw ymrwymiad a gwaith caled y rhai gyfrannodd i'r ddogfen, gan gynnwys ein partneriaid yn AWEF, ddim wedi cael ei adlewyrchu yn y ddarpariaeth o wasanaethau i bobl sydd ag epilepsi.

"Mae archwiliad diweddar yn dangos mai dim ond un o bob saith o'r Byrddau Iechyd Lleol wnaeth gydymffurfio'n llwyr gyda'r cyfarwyddyd.

"Byddwn yn annog y Byrddau Iechyd i glustnodi arian digonol ar gyfer gwasanaethau epilepsi, gan gynnwys ariannu partneriaid yn y sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i bobl fregus gydag epilepsi.

"Wedi 26 mlynedd o ddarparu gwasanaethau, mae'n bosib y bydd rhaid i Epilepsi Cymru gwtogi ein gweithredoedd oherwydd diffyg arian.

"Rydym hefyd yn gwahodd aelodau o Lywodraeth y Cynulliad a'r Byrddau Iechyd Lleol i ddod i'n cyfarfod ac ateb cwestiynau gan ein defnyddwyr a'u haelodau Cynulliad," ychwanegodd.



HEFYD
Epilepsi: Cynllun 'arloesol'
11 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific