Fydd rhai dan 18 oed ddim yn cael defnyddio gwely haul
|
Bydd pobl dan 18 oed yn cael eu gwahardd rhag defnyddio gwely haul yng Nghymru a Lloegr. Daw'r gwaharddiad i rym ar Ebrill 8. Dydd Mawrth fe fydd ACau yn trafod cyfres o fesurau i ymestyn y ddeddf honno yng Nghymru. Bwriad Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, ydi gwahardd salonau gwelyau haul heb oruchwyliaeth yn gyfan gwbwl o fis Hydref ymlaen a thynhau'r rheolaeth o salonau eraill. Mae hyn yn rhan o ymdrech i ymateb i bryderon ynglŷn ag effaith posib y gwelyau ar y croen. Daeth hi'n bosibilrwydd i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno rheolaeth lymach ar ôl mesur aelod preifat yn Senedd San Steffan gan gyn Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Julie Morgan. Lleihau'r risg O dan y canllawiau fe fyddai'n rhaid i'r salonau ddarparu cyfarpar addas i oruchwylio'r llygaid i oedolion sy'n defnyddio'r gwelyau haul ac i arddangos gwybodaeth iechyd sydd wedi ei gymeradwyo yn unig am effaith y gwelyau. Yn ôl arolwg gan Ymchwil Canser UK yn 2009 gafodd ei gomisiynu gan Ms Hart, roedd 8.2% o blant 11-17 oed yng Nghymru wedi defnyddio gwely haul o leiaf unwaith gyda 16% yn dweud y byddan nhw'n ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Edwina Hart am weld rheolau llymach
|
Roedd 41.5% o blant yn dweud eu bod wedi defnyddio'r gwelyau heb oruchwyliaeth. "Mae effaith canser ar unigolion ac ar eu teuluoedd yn gallu bod yn ddinistriol ac fel llywodraeth rydym yn parhau i fod yn ceisio gwneud popeth posib i daclo canser," meddai Ms Hart. "Er bod ein prif flaenoriaeth i warchod plant a phobl ifanc, fe fydd y rheolau newydd yn cynnig mwy o gyngor a gofal i oedolion hefyd." Ychwanegodd Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru, bod y gyfradd canser y croen wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar ac mae'n cael ei gysylltu yn bennaf gydag ymbelydredd uwch-fioled. "Rydym yn pryderu am y cynnydd mewn defnydd o'r gwelyau haul, yn enwedig gan bobl ifanc," meddai. "Fe fyddai canllawiau yn cynorthwyo i leihau'r risg o niwed i'r croen a chanser."
|