British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2011, 05:35 GMT 06:35 UK
Cefnogaeth Matthew Rhys i apÍl i brynu stad yn Eryri

Llyndy Isaf, Nant Gwynant

Tair blynedd ar ddeg ers i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol apelio am arian i brynu stad yn Eryri maen nhw'n lansio ymgyrch arall i brynu fferm arall yno.

Mae'r actor Matthew Rhys wedi teithio o Los Angeles er mwyn cefnogi'r cais i godi £1 miliwn ar gyfer prynu Llyndy Isaf yn Nant Gwynant.

Matthew Rhys
Matthew Rhys yw llysgennad yr apÍ

Matthew Rhys fydd llysgennad yr apêl gan olynu Syr Anthony Hopkins wnaeth gyfrannu swm sylweddol at apêl flaenorol yr ymddiriedolaeth yn 1988 i "Arbed Yr Wyddfa" a phrynu stad Hafod y Llan am £3.5 miliwn.

Fe fydd yr arian, yn ôl yr ymddiriedolaeth, yn sicrhau dyfodol y fferm 600 erw ar lan Llyn Dinas.

Mae'r tir yn ymestyn o Lyn Dinas ac Afon Glaslyn at gopa Moel Y Dyniewyd gan gynnwys coedlannau, cors a rhostir ac "o werth cadwriaethol eithriadol"

Mae'r fferm yn unigryw yn Eryri yn ôl yr ymddiriedolaeth gan nad yw wedi ei gyffwrdd gan ddulliau amaethu dwys ac mae'n gartref i sawl rhywogaeth bywyd gwyllt o ddiddordeb rhyngwladol.

'Tirlun anhygoel'

Mae'n gartref i Glas y Dorlan, y dyfrgi a'r Fran Goesgoch.

Pryder yr ymddiriedolaeth yw y gallai datblygiad masnachol ei ddifetha am byth.

"Caiff prydferthwch godidog Eryri ei fwynhau gan niferoedd, ond nawr, mae rhan ohoni dan fygythiad," meddai'r actor sy'n wreiddiol o Gaerdydd.

"Mae gennym un cyfle, ac un cyfle yn unig, i brynu ac amddiffyn Llyndy Isaf, gan gynnwys Llyn Dinas, y llyn prydferth oedd yn dyst i'r stori ddramatig roddodd enedigaeth i symbol Cymru, y Ddraig Goch.

Llyn Dinas
Mae Llyn Dinas ar lan y tir sydd ar werth yn Eryri

"Os na wnawn ni weithredu nawr, byddwn yn wynebu colli awyrgylch heddychlon y dyffryn arbennig hwn i ddatblygiad masnachol.

"Dewch Gymry os gwelwch yn dda, rhowch yn hael i Apêl Eryri, i'n helpu i sicrhau dyfodol y tirlun anhygoel yma," ychwanegodd yr actor sy'n rhan o'r gyfres boblogaidd Brothers & Sisters yn America a'r ffilm Patagonia a ryddhawyd yn ddiweddar.

Caiff yr apêl ei lansio o dan Apêl Eryri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae perchnogion presennol Llyndy Isaf ger Beddgelert, wedi byw a gweithio ar y tir am 35 mlynedd.

Dymuniad Mr a Mrs Ken Owen yw i'r ymddiriedolaeth brynu'r fferm.

'Cario mlaen'

"Doedd y penderfyniad i ymddeol a gadael Llyndy Isaf ddim yn un hawdd," meddai Mr Owen.

"Mae o'n lle mor braf i fyw ac rydan ni wedi treulio 35 o flynyddoedd hapus iawn yma.

"Rydan ni wedi gweithio'n galed a thros y cyfnod wedi dod i sylweddoli fwyfwy pa mor bwysig ydi ffermio mewn cytgord hefo'r amgylchedd.

CHWEDL
Ceir cyfoeth o chwedlau yn yr ardal. Cafodd Llyn Dinas ei hun ei enw o Ddinas Emrys, bryn creigiog, coediog sy'n edrych dros y llyn. Yn ôl un chwedl, a adroddir yn yr Historia Britonum a ysgrifennwyd dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl, dyma lle y bu draig wen y Sacsoniaid a draig goch y Celtiaid yn ymladd am oruchafiaeth, gyda'r ddraig goch yn ennill ar ôl ymlid y ddraig wen i ddyfroedd y llyn, lle diflannodd, byth i ymddangos eto. Credir mai'r chwedl hon a arweiniodd at fabwysiadu'r ddraig goch yn symbol cenedlaethol Cymru.

"Mae'n rhyfeddod gweld y bywyd gwyllt yn dod yn ôl i lefydd lle na fu fo ers blynyddoedd.

"Faswn i'n hoffi gweld hynny yn parhau a dyna pam rydan ni wedi cynnig y fferm i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oherwydd ein bod ni'n gwybod y gwnawn nhw gario mlaen i ffermio Llyndy Isaf yn yr un ffordd a dwi wedi ei wneud."

Mae gan yr ymddiriedolaeth darged i gyrraedd y nod erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae'r £1 miliwn yn mynd i sicrhau prynu'r fferm, y ffermdy o'r 19eg Ganrif a'r adeiladau, beudái, adeilad fferm modern, dau dŷ bynciau a gwersyll anffurfiol yn ogystal a gwaith y mae'r ymddiriedolaeth yn dweud sy'n "amgylcheddol angenrheidiol".

Golyga hyn waith at lwybrau, adnewyddu adeiladau traddodiadol a hybu bywyd gwyllt.

"Pan fyddai'n edrych ar y tirlun yn y gornel fechan, rhyfeddol hon o Gymru fedra i ddim meddwl am unlle sy'n fwy haeddiannol na Llyndy Isaf o dderbyn amddiffyniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol," meddai Richard Neale, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.

"Dwi'n gobeithio y bydd pobl o Gymru a thu hwnt yn ein helpu er mwyn i ni fedru prynu'r fferm.

"Os na fedrwn godi'r arian byddwn yn colli Llyndy Isaf - i fod yn hollol onest, does 'na ddim opsiwn arall."

Llwyddodd yr apêl ar ddiwedd y 1990au gyda Syr Anthony Hopkins i godi £4 miliwn i brynu stad Hafod y Llan, stad 4,000 acer ar lethrau'r Wyddfa.

Cafodd Apêl Eryri ei lansio yn 1990 ac mae wedi codi dros £8 miliwn ar gyfer sawl is-apêl.



HEFYD
Agor canolfan £4m yn Eryri
10 Rhag 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific