British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2011, 05:41 GMT 06:41 UK
Cyfarfod i drafod dyfodol sinema Porthmadog

Sinema Coliseum Porthmadog
Mae 'na hen draddodiad i'r sinema ers y 1930au

Fe fydd cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal i drafod dyfodol sinema yn un o drefi Gwynedd.

Y Coliseum ym Mhorthmadog ydi un o sinemâu hynaf y sir gan ddiddori trigolion lleol ac ymwelwyr ers y 1930au.

Ym mis Ionawr eleni bu'n rhaid cau'r drws ar y sinema oherwydd bod nifer y gynulleidfa yn gostwng.

Roedd y sinema yn wag ar fwy nag un achlysur.

Nos Fawrth fe fydd 'na gyfarfod arbennig o'r cwmni sy'n cynnal y sinema i benderfynu a fyddan nhw'n bwrw ymlaen i gael nawdd a chymorth gwirfoddol i ail-agor y sinema dros yr haf a'i pheidio.

'Opsiynau'

Os na, mae'n bosib y gall y cwmni benderfynu gwerthu'r adeilad.

Dywedodd Eryl Morris, ysgrifennydd y cwmni, y gallai trydydd opsiwn fod ar y bwrdd.

"Mae rhywun wedi nodi eu bod eisiau ceisio rhedeg y sinema fel menter breifat," ychwanegodd Mr Morris.

"Gobeithio y bydd yn y cyfarfod gyda ffigyrrau er mwyn i ni ystyried yr opsiwn yma hefyd."

Yn 1984 fe wnaeth pobl leol brynu cyfranddaliadau am £1 yn y busnes i gynnal y sinema.

Mae Mr Morris yn eu hannog i gyd i fynychu'r cyfarfod sy'n cael ei gynnal yn y sinema nos Fawrth am 7.30pm.

Dywedodd bod y cwmni, Coliseum (Porthmadog) Plc, mewn gwaeth sefyllfa nawr nag yr oedd yn 2007 pan gafodd £14,000 ei godi ar gyfer gwaith ailwampio angenrheidiol yn y sinema i atal cau'r atyniad.

"Doedd pobl ddim yn dod i weld y ffilmiau oedd yn cael eu dangos yma," meddai Mr Morris.

Digidol

"Rydan ni eisoes wedi cwtogi nifer yr arddangosiadau i lawr i bedwar yr wythnos.

"Os nad ydyn nhw'n dod yma, dydan ni ddim yn gwneud elw ac mae dangos ffilmiau yn costio cryn dipyn.

"Mae'r cwmnïau ffilm eisiau 55% o elw dangos unrhyw ffilm yn ystod wythnos gyntaf eu rhyddhau."

Ychwanegodd bod hi'n ymddangos bod nifer o bobl yn fodlon teithio 42 milltir i'r sinema aml sgrin yng Nghyffordd Llandudno i weld ffilmiau.

Ond dywedodd bod mwy yn ymweld â'r sinema yn ystod y tymor gwyliau.

Mae Mr Morris hefyd yn poeni bod angen gwario mwy o arian ar y sinema er mwyn gwella'r ddarpariaeth sydd yna gan gynnwys y peiriannau a newid i'r dull digidol.



HEFYD
Apl i gadw sinema ar agor
16 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific