Ystadegau diweddara: Mwy na 160,000 yn ymweld yn fisol â'r wefan
|
Fe fydd y cytundeb rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a gwefan Golwg360 yn parhau am dair blynedd arall. Dechreuodd y gwasanaeth yn 2009. Dywedodd Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones, fod y gwasanaeth wedi sefydlu ei hun fel ffynhonnell newyddion o Gymru a rhyngwladol. "Rydan ni'n falch iawn gyda'r newyddion wrth reswm," meddai Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360. "Mae'n bleidlais o hyder ac yn arwydd o lwyddiant y prosiect, a hynny efo tîm bach brwd mewn amser economaidd anodd. "Rydan ni'n edrych ymlaen at ddatblygu'r gwasanaeth ymhellach dros y tair blynedd nesaf." Ym mis Mawrth 2010 roedd y Cyngor Llyfrau wedi comisiynu cwmni Wavehill o Aberaeron i gynnal arolwg o'r gwasanaeth, gan gasglu barn defnyddwyr am y gwasanaeth a phatrymau ymweld â'r wefan. Roedd canmoliaeth gyffredinol i safon newyddiaduraeth y gwasanaeth. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar ffyrdd o ddatblygu'r gwasanaeth. Llongyfarch Mae Golwg 360 eisoes wedi dechrau gweithredu rhai o'r argymhellion ac wedi dweud bod mwy'n ymweld â'r safle. Yn ôl yr ystadegau diweddara, mae'r nifer o ymweliadau misol dros 160,000. Croesawodd Panel Grantiau Cyhoeddi (Cymraeg) y Cyngor Llyfrau gasgliadau'r adroddiad a llongyfarch Golwg360 ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes. Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth: "Mae Golwg 360 wedi datblygu'n adnodd newyddion pwysig i Gymry Cymraeg. "Rwy'n falch i weld cynnydd gwefan Golwg 360 mewn dwy flynedd a bydd yr estyniad i'r cytundeb yn rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu'r gwasanaeth ymhellach. "Mae gwasanaeth newyddion dyddiol yn y Gymraeg yn hynod o bwysig i ddatblygu'r iaith ac i gynyddu'r amrywiaeth o ffynonellau newyddion yng Nghymru."
|