Nigel Farage o UKIP. Maen nhw eisiau i ASau deithio i'r Bae un wythnos y mis i drafod materion wedi eu datganoli
|
Wrth lansio maniffesto ym Mae Caerdydd, roedd cynrychiolwyr Plaid Annibyniaeth y DU yn hawlio mai eleni yw'r flwyddyn y bydd ganddyn nhw aelodau yn y Cynulliad am y tro cyntaf. Roedd Nigel Farage, arweinydd y blaid ac Aelod Seneddol Ewropeaidd y blaid, hefyd yn dweud y byddai UKIP yn gweithio i newid y drefn yn y Cynulliad gan gael gwared ar ACau a disgwyl i Aelodau Seneddol deithio i'r Bae unwaith y mis i ddelio â materion wedi eu datganoli. Mynnodd Kevin Mahoney, ymgeisydd rhanbarthol Canol De Cymru bod "swydd AC yn swydd rhan amser". Polisïau Ymysg polisïau eraill y maniffesto, mae'r ymrwymiad hir dymor i dynnu Prydain allan o'r Undeb Ewropeaidd a chyfyngu ar fewnfudo, rhoi stop ar gyllido ymchwil i ddefnydd o ynni gwynt, tonnau a solar ac adeiladu pwerdai niwclear er mwyn atal datblygiad pellach o ynni gwynt. Mae'r polisïau yma, fel nifer o bolisïau eraill yn y maniffesto, tu hwnt i bwerau'r Cynulliad ac angen newid yn y gyfraith i'w gweithredu o'r Bae. Yng Nghymru, mae UKIP wedi ymrwymo i gyflwyno trefn o ethol pwyllgorau iechyd a chadw ysgolion cynradd â mwy nag 20 o ddisgyblion ar agor. ACau: 'rhan amser' Yn draddodiadol, mae UKIP wedi gwrthwynebu'r Cynulliad - roedden nhw'n flaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn pwerau deddfu pellach i'r Cynulliad yn y refferendwm yn gynharach yn y mis.
Ond dywedodd Mr Farage ei bod yn amlwg o'r ddau refferendwm yng Nghymru "bod dyhead am ddatganoli". Dyhead UKIP felly yw datganoli mwy o bwerau i awdurdodau lleol, diddymu rôl Aelodau Cynulliad ac i Aelodau Seneddol weithio o Fae Caerdydd am wythnos bob mis. "Tan fy mod yn 15 mlwydd oed, dim ond un AS oedd gen i, nawr mae 10 gwleidydd yn fy nghynrychioli i," meddai Mr Mahoney. "Gadewch i ni roi stop ar hynny." Dywedodd bod gwleidyddion sydd â mandad dwbl, yn gweithio yn y Bae yn ogystal ag fel cynghorwyr sir neu yn San Steffan yn "cydnabod mai swydd rhan amser yw swydd AC" felly bod dim angen i'r Cynulliad weithredu'n llawn amser. Hyderus o lwyddiant Mae Mr Farage yn hyderus y bydd UKIP yn anfon cynrychiolaeth i Fae Caerdydd - "y cwestiwn yw faint yn union?" meddai. "Fy ymweliad gwleidyddol diwethaf [â Chymru] oedd y cyfnod cyn etholiadau Ewrop 2009, ac fe synnon ni bawb bryd hynny," meddai gan gyfeirio at ethol Jon Bufton fel ASE cyntaf UKIP yng Nghymru. Dywedodd ei fod yn deall yr amheuaeth yn 2009 gan fod yr arolygon barn yn wan i UKIP ar y pryd. Ond mae'n mynnu bod yr arolygon barn yn llawer cryfach erbyn hyn. "Gallaf ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon y bydd ein pobol ni'n cael eu dewis ar Fai 5," meddai.
|