British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Mawrth 2011, 07:11 GMT 08:11 UK
Gwahardd ysmygu wrth fynedfeydd

Ysmygu

Bydd ysmygu y tu allan i fynedfeydd ysbytai Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael ei wahardd yn llwyr o ddechrau mis Mai.

Bydd cleifion a staff ond yn cael ysmygu mewn ardaloedd penodol tan i waharddiad llwyr ddod i rym ym mis Tachwedd.

Dywedodd cadeirydd iechyd cyhoeddus y Bwrdd Iechyd Lleol, Dr Sharon Hopkins: "Rydym am i hyn fod yn newid diwylliant, nid trwy ddirwyo ac ati.

"Nid yw ysbyty yn lle i ysmygu, ac mae gennym fel Bwrdd Iechyd ddyletswydd i'n staff a'n cleifion i arwain drwy esiampl a dangos hynny.

"Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi'r rhai sy'n darparu gofal a'r rhai sy'n ei dderbyn drwy ein gwasanaethau i gefnogi rhoi'r gorau iddi."

Cefnogaeth

Daeth cefnogaeth i'r newid gan y mudiad gwrth-ysmygu ASH Cymru a'r gymdeithas feddygol, y BMA.

Dywedodd ysgrifennydd Cymru i'r BMA, Dr Richard Lewis: "Mae ysmygu mewn ardaloedd cyhoeddus yn peryglu iechyd llawer o'n poblogaeth ac yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

"Mae cleifion yn dod i'r ysbyty i gael eu trin. Gall darparu awyrgylch lan ond fod o gymorth i'w hiechyd nhw."

Dywedodd Tanya Buchanan, prif weithredwr ASH Cymru: "Mae pobl yn disgwyl i feddygon a staff ysbyty i osod esiampl dda.

"Ond rhaid sylweddoli fod tybaco yn ddibyniaeth fel alcohol, ac mae'n rhaid trin pobl yn briodol.

"Mae'n hanfodol felly fod staff a chleifion yn cael y cymorth addas a'r gefnogaeth i'w cynorthwyo i roi'r gorau iddi."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific