British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 27 Mawrth 2011, 08:52 GMT 09:52 UK
Diwrnod Cyfrifiad 2011

Ffurflen 2001
Roedd 'na aniddigrwydd am un cwestiwn ar ffurflen 2001

Dydd Sul yw diwrnod Cyfrifiad 2011.

Fe achosodd yr un diwethaf yn 2001 ddadlau mawr am nad oedd yn cynnwys blwch lle y gallech chi nodi eich bod chi'n Gymro neu'r Gymraes.

Erbyn hyn, mae'r blwch hwnnw yno.

Mae pob cartref yng Nghymru a Lloegr wedi derbyn yr holiadur.

Caiff yr arolwg ei gynnal ar ran y llywodraeth bob 10 mlynedd.

Yn ôl Hedd Vine, Rheolwr Ardal Caerdydd ar gyfer y Cyfrifiad, mae'r wybodaeth o'r cyfrifiad yn cael eu defnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau.

"Mae'n gofyn lot o gwestiynnau ond y rheswm yw bod rhaid cael darlun o'r boblogaeth, darlun llawn o'r gendl gan fod ystadegau'r cyfrifiad yn cael eu defnyddio gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a iechyd er mwyn cynllunio a darparu gwasanaethau sydd eu hangen ar y genedl."

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref ddychwelyd y ffurflen neu i lenwi'r holiadur ar-lein.

Dywedodd Glen Watson, Cyfarwyddwr Cyfrifiad 2011: "Gallwch ei lenwi ar lein drwy fynd i www.cyfrifiad.gov.uk

"Bydd hyn yn gynt ac yn well i ni gan na fydd yn rhaid i ni sganio'r ffurflenni a dehongli'r holl lawysgrifen.

"Wrth gwrs, gall pobl ei lenwi â llaw o hyd os ydyn nhw am wneud hynny.

"Drwy lenwi holiadur y cyfrifiad yn brydlon a'i anfon aton ni, bydd yn golygu nad oes rhaid i unrhyw un alw heibio i'ch atgoffa chi.

"Mae ystadegau'r cyfrifiad yn galluogi'r awdurdodau yng Nghymru a Lloegr i gynllunio'n gywir ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â lleoedd mewn ysgolion, tai, ffyrdd, gwasanaethau brys a llawer o wasanaethau lleol eraill."

Cymry

Cyfrifiad 2011 fydd y tro cyntaf i bobl fedru cofnodi eu bod yn Gymry, hyd yn oed os ydyn yn byw mewn rhannau eraill o Brydain.

Sampl o holiadur Cyfrifiad 2011
Cafodd y Cyfrifiad ar-lein ei brofi ar Ynys Mn yn 2009

Yn 2000 fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad bleidleisio'n unfrydol dros gynnwys y blwch "Cymry" ar y ffurflen yn 2001 ond roedd hi'n rhy hwyr i'w newid.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol mai'r ffaith nad oedd y blwch wedi cael ei gynnwys ar y ffurflen yn 2001 arweiniodd at y nifer mwyaf o gwynion.

Cafodd Ynys Môn ei dewis fel ardal i brofi'r system newydd o gyfrifiad ar-lein yn 2009.

Mae disgwyl i'r Cyfrifiad gostio dros £300 miliwn o'i gymharu â £200 miliwn yn 2001.

Fe ddylai'r holiadur wedi'i lenwi roi disgrifiad cywir o'ch cartref a'ch ymwelwyr ar noson y cyfrifiad ddydd Sul.



HEFYD
Cymraeg clir y Cyfrifiad
11 Maw 11 |  Newyddion
35,000 o swyddi i'r Cyfrifiad
07 Hyd 10 |  Newyddion
Sir i roi prawf ar gyfrifiad 2011
18 Medi 09 |  Newyddion
Blwch i'r Cymry yn y Cyfrifiad
11 Rhag 08 |  Newyddion
Canlyniadau Cyfrifiad 2001
13 Chwef 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific