British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 26 Mawrth 2011, 17:50 GMT
Ffrae am gynllun is-orsaf drydan

Gwrthwynebiad mewn dau bentref i gynllun

Mae protestwyr wedi lleisio eu gwrthwynebiad wrth i gynlluniau ar gyfer is-orsaf drydan ym Mhowys gael eu harddangos.

Mae dau safle posib o ryw 19 erw - yn Aber-miwl ger y Drenewydd, a Chefn Coch, ger Llanfair Caereinion - wedi eu clustnodi.

Cynhelir arddangosfa gan y Grid Cenedlaethol, sy'n mynnu bod angen uwchraddio'r rhwydwaith trydan yn yr ardal oherwydd cynlluniau ar gyfer 10 fferm wynt newydd, yn Aber-miwl ddydd Sadwrn.

'Gwiriondeb'

Ond ymhlith y gwrthwynebwyr y mae Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn Glyn Davies, a gyfeiriodd yn ei flog at yr "opsiynau ofnadwy" oedd yn "wiriondeb".

Disgrifiodd gyfarfod gyda swyddogion y Grid Cenedlaethol a ScottishPower oedd yn cynnig dewis "rhwng rhwygo eich llygad dde neu lygad chwith allan".

arwydd ffordd
Trefnydd protest: 'Mae trigolion Aber-miwl i gyd yn erbyn y cynllun'

Mewn datganiad, dywedodd y Grid Cenedlaethol: "Nid oes rhwydwaith trawsyrru trydan foltedd uchel yn ardal y cynlluniau cynhyrchu trydan newydd ar hyn o bryd, felly bydd angen cysylltiad newydd i drosglwyddo'r ynni o'r man lle caiff ei gynhyrchu i'r man lle caiff ei ddefnyddio.

"Mae'r Grid Cenedlaethol yn bwriadu adeiladu is-orsaf newydd i gasglu'r ynni o'r ffermydd gwynt a chysylltiad trawsyrru 400,000 folt (400 kV) a fydd yn cludo'r pŵer o'r is-orsaf ac yn ei gysylltu â system drawsyrru Prydain.

"Yn ogystal â'r gwaith y mae Grid Cenedlaethol yn ei wneud, mae SPEN ac SSE Renewables yn bwriadu datblygu cysylltiadau newydd 132,000 folt (132 kV) a fydd yn cysylltu'r ynni a gaiff ei gynhyrchu yn y ffermydd gwynt ag is-orsaf newydd y Grid Cenedlaethol".

Bydd cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus am y prosiect, gan ddechrau yn Ysgol Gynradd Aber-miwl ddydd Sadwrn.

Ond yn ôl un o drefnwyr y brotest, Tony Caplin, fe wnaeth 80 o drigolion gwrdd yn gynharach yr wythnos hon i drafod eu pryderon.

"Mae trigolion Aber-miwl i gyd yn erbyn y cynllun".



HEFYD
Methu targedau ynni gwynt
26 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific