British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mawrth 2011, 14:00 GMT
Rhybudd am danau gwair

Deiniolen, Gwynedd
Bu criwiau yn brwydro'r fflamau ger Deiniolen yng Ngwynedd

Mae arweinwyr y Gwasanaethau Tân yn dweud eu bod yn targedu pobl sy'n cynnau tanau gwair yn fwriadol wedi iddyn nhw dderbyn cannoedd o alwadau'r wythnos hon.

Mewn un lle yng Nghwm Cynon, cafodd diffoddwyr eu galw 20 gwaith mewn pedwar diwrnod i ddelio gyda thanau, a'r gred yw bod llawer o'r rhain wedi eu cynnau'n fwriadol.

Mae'r heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb, ac mae teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio i ddal troseddwyr.

Bu diffoddwyr yn brysur ar draws Cymru gydag un tân ger Llangollen yn llosgi am oriau lawer. Mewn un digwyddiad arall, bu'n rhaid i ambell deulu ger Deiniolen yng Ngwynedd adael eu cartrefi am gyfnod byr.

'Peryglu bywydau'

Mae'r Gwasanaeth Tân yn dweud fod y tanau yn cael "effaith sylweddol" ar adnoddau'r gwasanaeth gan fod "criwiau yn cael eu cadw'r brysur am oriau lawer."

Dywedodd Jason Evans, rheolwr gorsaf Aberdâr, fod y gwasanaeth yn gweithio gyda'r heddlu ac eraill er mwyn "sicrhau bod rhai sy'n cynnau tân yn fwriadol ac yn achosi difrod i eiddo pobl ac yn peryglu bywydau'r cyhoedd a'r diffoddwyr yn cael eu dal."

Ychwanegodd: "Dylai unrhyw un sy'n ystyried cynnau tân ar y bryniau ystyried y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w dal a'u herlyn."

Yn y de bu'r trafferthion mwyaf yn ardal Aberpennar, tra yn y gogledd bu diffoddwyr yn delio gyda thanau yn ardal Caernarfon (Deiniolen), Llanrwst, Conwy a Chorwen.

Brynhawn Gwener roedd Gwasanaethau Tân ac Achub yn parhau i ddelio â thannau yn ardal Corwen, Blaendulais, Penrhyn GŶyr, Talgarth, Treherbert, Merthyr a Ferndale.



HEFYD
Tân eithin dros ddwy erw
09 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific