British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mawrth 2011, 11:11 GMT
Eisteddfod: Dau docyn am bris un

Maes yr Eisteddfod
Bydd y cynllun tocynnau ar gyfer penwythnos cynta'r brifwyl.

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, gynllun arbennig a fydd yn galluogi trigolion ardal Wrecsam i archebu dau docyn am bris un i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro eleni.

Cynhelir yr Eisteddfod ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam o 30 Gorffennaf - 6 Awst eleni.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu £25,000 at gynllun a fydd yn galluogi'r Eisteddfod Genedlaethol i ddarparu 10,000 o docynnau dau am bris un ar gyfer penwythnos cyntaf y Brifwyl, 30-31 Gorffennaf.

Bydd trigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu gwneud cais am y tocynnau.

'Penwythnos i'r teulu'

Dywedodd Mr Jones: "Wrth wneud y cynnig yma ar gyfer mynediad i Faes yr Eisteddfod, rydw i'n mawr obeithio y byddwn yn denu nifer o deuluoedd i'r maes i fwynhau gweithgareddau'r Brifwyl.

"Mae denu pobl leol i fod yn rhan o hwyl yr Eisteddfod a dysgu mwy am ŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru yn hollbwysig. Rydw i hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn hwb i'r economi leol."

Ychwanegodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru:

"Rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog ac i Lywodraeth y Cynulliad am eu cefnogaeth barhaus, ac yn credu y bydd y cynllun hwn yn apelio at bobl ardal Wrecsam.

"Mae'r Eisteddfod yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth y gymuned leol, ac mae'r cynllun hwn yn ffordd o roi cyfle i bobl yr ardal gael blas ar yr iaith, diwylliant Cymru a'r Eisteddfod ar stepen y drws.

"Mae penwythnos cyntaf y Brifwyl wedi ennill ei blwyf fel penwythnos i'r teulu, ac mae'r cyfraniad hwn gan y Llywodraeth a'r tocynnau dau am bris un a fydd ar gael yn ei sgil yn siŵr o sicrhau y bydd nifer fawr o deuluoedd lleol yn cael cyfle i fwynhau diwrnod yn yr Eisteddfod, a'n gobaith yw y bydd nifer ohonyn nhw'n dychwelyd am ddiwrnod arall yn ystod yr wythnos."

'Hwyliog a chyfeillgar'

Caiff y grant ei weinyddu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

"Rwy'n annog teuluoedd Wrecsam i fanteisio ar y cynnig hwn ac i ddod i'r Eisteddfod i brofi bwrlwm yr ŵyl.

"Bydd yn gyfle i deuluoedd flasu, clywed a defnyddio'r Gymraeg ac i brofi llu o weithgareddau ym mhob cornel o'r maes mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar."

Bydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi manylion llawn y cynllun dros yr wythnosau nesaf.



HEFYD
Tri thenor yn agor cyngherddau'r Brifwyl
23 Chwef 11 |  Newyddion
Hwb dros frecwast i'r iaith
17 Chwef 11 |  Newyddion
Blwyddyn o ddiwylliant mewn tref
21 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific