British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mawrth 2011, 10:03 GMT
Dymchwel Pafiliwn Corwen

Pafiliwn Corwen
Bydd y gwaith o ddymchwel Pafiliwn Corwen yn dechrau'n fuan.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi eu bod ar fin dechrau dymchwel Pafiliwn Corwen.

Caewyd y Pafiliwn ym Mawrth 2010 oherwydd cyfres o bryderon am iechyd a diogelwch, ac o ganlyniad penderfynwyd nad oedd hi'n economaidd ymarferol i'w drwsio.

Dywedodd Pennaeth Hamdden yr awdurdod, Jamie Groves: "Sefydlwyd gweithgor i'r pafiliwn a bu'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf i edrych ar faterion megis cynllun, cost ac ariannu'r adeilad.

"Mae'r penderfyniad i ddymchwel y pafiliwn wedi ei wneud wedi ymgynghori'n llawn gyda'r gweithgor gydag unrhyw ddatblygu ar y safle yn y dyfodol yn dibynnu ar gael gwared a'r strwythur presennol.

"Tra bod yr adeilad yno'n wag, mae yna risg sylweddol i'r cyngor a'r gymuned leol.

"Yn ystod cyfarfodydd gyda Gweithgor Pafiliwn Corwen, mae'r cyngor wedi pwysleisio nad oes gennym yr arian i godi pafiliwn newydd, ond ein bod yn barod i drosglwyddo gweithred eiddo'r tir i'r gymuned er mwyn iddyn nhw sefydlu ymddiriedolaeth elusennol."

Cymorth

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi addo cymorth i'r Gweithgor i geisio sefydlu a datblygu bwrdd o ymddiriedolwyr fyddai wedyn yn gallu chwilio am gyllid ar gyfer adnodd newydd o'r dref.

Byddai trosglwyddo perchnogaeth y tir yn ddibynnol ar gadw at y pwrpas gwreiddiol, sef hybu diwylliant Cymraeg.

Dywedodd y cynghorydd sir dros Gorwen, y Cynghorydd Huw Jones: "Mae'r rhain yn gamau positif ond mae llawer o waith caled o'n blaenau.

"Gydag ymroddiad ein swyddogion a chefnogaeth y gymuned gallwn weithio gyda'n gilydd i ddarparu adnodd fydd yn cwrdd â gofynion a dyheadau pawb."



HEFYD
Holi ac ateb am ddymchwel pafiliwn
01 Tach 10 |  Newyddion
Cais i ddymchwel pafiliwn
23 Hyd 10 |  Newyddion
Pafiliwn: Dyfodol newydd?
03 Awst 10 |  Newyddion
Pafiliwn: 200 mewn cyfarfod
08 Ebr 10 |  Newyddion
Pafiliwn: 'Y ffordd ymlaen'
05 Maw 10 |  Newyddion
Cau Pafiliwn Corwen
03 Maw 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific