British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Mawrth 2011, 06:49 GMT
Marwolaeth: cyhuddo dau arall o ladd

Ramunas Raulinautis
Cafwyd hyd i Ramunas Raulanitis y tu allan i westy'r Gateway Express yng Nghasnewydd.

Dywedodd yr heddlu fod dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghasnewydd.

Cafwyd hyd i Ramunas Raulanitis gyda llosgiadau difrifol y tu allan i westy yng Nghasnewydd ar Fawrth 9.

Bu farw dridiau yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Cafodd dau ddyn, 29 a 21 oed eu cyhuddo mewn perthynas â digwyddiad yn Livingstone Place yng Nghasnewydd ar Fawrth 8.

Yn ogystal â'r cyhuddiad o lofruddiaeth, mae'r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol ac o gynnau tân yn fwriadol.

Bydd y ddau yn ymddangos gerbron ynadon Caerffili ddydd Gwener.

Mae un dyn 27 oed eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o lofruddio Mr Raulanitis.



HEFYD
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar l tn
15 Maw 11 |  Newyddion
Tn: Arestio dyn
11 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific